Print

Print


Diolch, Huw, dyna'r oeddwn i'n arfer a'i wneud wedyn benderfynais i, os nad
oeddwn i'n newid Musikverein, pam afllwydd newid Lincoln Center sydd a'r un
faint o hawl yn union i fod yn enw adeilad. Fath a Ty Newydd - fasa ni'm yn
disgwyl i hwnna gael ei gyfieithu i Saesneg mewn dogfen does bosib? Hyd y
gwela i, yr unig rai dan ni'n ystyried eu cyfieithu ydi'r rhai Saesneg ond
mae Wigmore Hall ne Scottish Symphony Orchestra ne beth bynnag yn enw'r un
mor ddigyfnewid, ddeudwn i, a Concergebouw. Mi ddois i i'r penderfyniad
yma'n dilyn erthygl yn Y Cymro rai blynyddoedd yn ol - dwi ddim yn cofio'r
awdur - ac ers hynny dwi wedi cadw enwau cerddorfeydd a neuaddau ar eu ffurf
wreiddiol, neu wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg am fod yr wyddor yn wahanol
(Rwsia) neu am fod enw'r lle/cerddorfa yn amlwg yn gyfieithiad Saesneg.
Annes

2008/7/6 Huw Garan <[log in to unmask]>:

> Cyfieithu'r enw fydda i'n ei wneud fel arfer, gan ychwanegu esboniad os
> bydd ei angen e.e. "Canolfan Lincoln yn Efrog Newydd," Neuadd Albert ac Y
> Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol.  Fe fydd eithriadau o bryd i'w gilydd ond
> mae'n gweithio'n iawn y rhan fwyaf o'r amser.
>
> 2008/7/6 annes gruffydd <[log in to unmask]>:
>
>  Be wedyn am sefydliadau ayyb nad ydyn nhw ddim yn Gymraeg? Yn gam neu'n
>> gymwys dwi'n trin enwa neuadda, cymdeithasa fel enwa priod ee Royal Albert
>> Hall, Lincoln Center, Royal Philhamonic Society. Os ydi The yn rhan o'r enw
>> does yna ddim problem os os nad ydi, dwi bob amsar yn cloffi rhwng dau
>> feddwl pa un ai 'y Royal Albert Hall' ta 'Royal Albert Hall' ddyliwn i'i
>> ddeud. Faswn i'n falch iawn o ganllaw. Diolch ymlaen llaw
>>
>> Annes
>>
>> 2008/7/5 Dafydd Lewis <[log in to unmask]>:
>>
>> Cwestiwn syml i ramadegwyr mae'n debyg - rydw i wedi defnyddio'r fannod
>>> wrth son am sefydliadau ambell dro, ond dro arall yn teimlo ei fod yn
>>> gywirach hebddi. e.e. 'y Bartneriaeth Respect' a 'Partneriaeth Respect'
>>> ill dau. Sylwaf ar Google bod enghreifftiau megis 'y Sefydliad
>>> Astudiaethau Polisi' a 'Sefydliad Astudiaethau Polisi' yn cael eu
>>> defnyddio.
>>> A oes angen y fannod, ynteu ydi ots?
>>> dafydd
>>>
>>
>>
>