Dw i angen cyfieithu 'early intervention project'. Mae TermCymru'n rhoi 'rhaglenni ymyrraeth gynnar' am 'early intervention programmes', ond mae 'intervention' yn 'ymyrraeth' mewn rhai achosion ac yn 'ymyriad' mewn achosion eraill. Oes yna wahaniaeth rhyngddyn nhw? Diolch Rhian