Fyddwn i ddim yn defnyddio 'arfaethedig' yn y cyd-destun hwn. 'Rhagolygol' yn swnio'n hollol iawn i mi, hefyd 'ol-syllol' am 'retrospective' (yn hytrach nag 'adolygol' sydd yn rhy debyg i 'review'). Dafydd On Wed, 2 Apr 2008 11:05:49 +0100, GLENYS ROBERTS <[log in to unmask]> wrote: >Prospective study: A study in which the subjects are identified and then followed forward in time. (Maes - Seicoleg) > Mae cyfieithydd y testun dw i'n ei olygu wedi rhoi 'astudiaeth arfaethedig' a dyna sydd yn Termau Hybu Iechyd/Cysgeir, ond byddai'n well gen i rywbeth fel 'astudiaeth ragolygol' dw i'n meddwl. > Unrhyw sylwadau? > > Diolch > Glenys > (Mae 'na 'retrospective studies' hefyd wrth gwrs - ôl-syllol?) >