Print

Print


Gair o brofiad, yn hytrach na gair o gyngor, gan fy mod i wedi methu'r prawf aelodaeth Gyflawn i'r Gymraeg ddwywaith, ac yn ofni ceisio eto rhag ofn imi fethu eto! 

Yr anhawster fwyaf, yn fy marn i, yw amseru pethau. Y ddau dro, 'dw i wedi mynd adref, edrych ar fy ngwaith, a gweld y gwallau'n syth - ond ar y pryd, wedi cwblhau'r drafft, 'roedd yn anodd defnyddio geiriadur a phendroni ynghylch y geiriau priodol i lenwi bylchau, a chael amser i ail-ddarllen y gwaith hefyd. Mae'n amlwg y byddai cyfieithydd gwell yn meddu ar eirfa ehangach AC yn osgoi yn reddfol yn y lle cyntaf lawer o'r gwallau iaith 'rwyf innau'n gorfod mynd yn ol i'w cywiro. Gan hynny, teimlaf yn anghyfforddus pan fydd pobl mewn gweithdai cyfieithu yn lladd ar y rhai sydd wedi gwneud gwallau sylfaenol mewn arholiadau. 'Dyn ni'n gweld o negeseuon y cylch bod hyd yn oed pobl llawer mwy profiadol na fi yn medru llithro wrth ysgrifennu'n frysiog, felly 'dyw gwall twp ddim yn golygu o anghenraid bod y cyfieithydd yn dwp. (Wedi dweud hynny, 'dw i wedi gweld rhai "howlers" mewn gwaith i'w asesu, hefyd.) 

O weithio efo Bruce a'r dosbarth cyfieithu, teimlaf mai'r peth i'w wneud os *dymunwch* fethu yw pendroni dros bob problem wrth ddod ati, a pheidio a symud ymlaen nes ei datrys. Gwell ei farcio yn y testun (e.e. trwy ddefnyddio seren neu groes) a dod yn ol ati wedyn, pan fydd yr isymwybod wedi cael amser i weithio arni, a phan fyddwch wedi gorffen y drafft cyntaf. 

Mae rhai pethau'n amlwg: defnyddio'r amser cyn cychwyn i addasu eich sedd yn gyfforddus, agor ffeil ar y cyfrifiadur a'i safio dan enw call, agor Cysill a CysGair ac addasu maint y ffont a phopeth i fod mor agos ag y bo modd at yr hyn 'dych chi'n arfer ag o gartref. Fel arfer, 'rwy'n mynd a'm disg fy hun i'r arholiad a gofyn caniatad i ddadlwytho copi o'r cyfieithiad gorffenedig er mwyn mynd drosto gartref wedyn. 

Gyda llaw, faint o gyfieithwyr heb gymhwyster, a chyfieithwyr sylfaenol, sydd allan yn fanna'n gwneud gwaith ar eu pennau eu hunain? Cofiwch fod diffiniad safon Aelod Sylfaenol yw safon gyfateb i waith cyfieithydd sydd ar ddechrau ei yrfa ac yn gweithio dan arolygiaeth cyfieithydd profiadol ers blwyddyn a rhagor. Sylweddolaf fod rhai ohonynt yn brofiadol iawn, ac wedi cael portffolio o gwsmeriaid bodlon cyn i'r Gymdeithas ddod i fri, a sylweddolaf hefyd y byddai'n anodd bodloni'r galw am gyfieithwyr hebddynt. Bum yn cyfieithu *i'r Saesneg* ar fy liwt fy hun am flynyddoedd cyn sefyll arholiad y Gymdeithas - gan nad oedd arholiad i'r Saesneg yn unig ar gael ar wahan ar y dechrau! Ond 'dw i wastad wedi talu i gyfieithydd mwy profiadol (Bruce erbyn hyn) brawfddarllen fy ngwaith cyfieithu i'r Gymraeg, ac er bod 'na lawer llai o waith cywiro iddo erbyn hyn (ac felly 'dw i'n talu iddo fesul awr, yn lle fesul gair!), 'dw i'n dal i wneud ambell i wall twp, ac yn dal i ddysgu dulliau gwell o fynegi pethau (hyd yn oed os nad oedd fy nghynigion innau'n anghywir). Mae dysg i'w chael o'r crud i'r bedd, ac nid yw hyd yn oed ennill safon Aelod Cyflawn yn golygu nad oes modd gwella. 

Dyma ddiwedd y bregeth - neu'r cyfan y gallaf feddwl amdano rwan. 

Pob lwc!

Ann