Print

Print


Ann

Dwi'n gweithio yn y Llyfrgell, felly dwi newydd ofyn i gwpl o bobl a ydyn nhw'n ymwybodol o dern penodol sy'n cael ei arfer. Mae'n debyg mai 'Cymorth Grant' sydd wedi cael ei ddefnyddio fan hyn ers blynyddoedd. Dwi ddim wedi dod ar ei draws fy hun o'r blaen, a baswn i ddim am geisio dyfalu beth yw'r term gorau, ond dyna'r ateb ces i beth bynnag.

Gobeithio bydd hyn o gymorth.
Ceri

Ann Corkett wrote:
Pan ddechreuais wneud gwaith cyfieithu i'r Llyfrgell Genedlaethol, amser maith yn ol, dysgais enwau'r holl gymorthdaliadau mae'n eu derbyn, gan gynnwys y Grant Cynnal (Grant-in-Aid), a dyna'r term 'rwyf wedi'i ddefnyddio ers hynny. 
 
Caf erbyn hyn, wrth gyfieithu dogfen o'r Gymraeg i'r Saesneg, mai "Cymorth Grant / Grant Cymorth" mae rhai o leiaf o'r staff yn ei ddefnyddio, ac o droi at Term-Cymru gwelaf "grant-in-aid" fel "cymorth grant" (statws 3).  Mae'r un peth yn "Termau Cyllid" Cysgair.  I mi, mae'r llythrennau bach yn arwyddocaol; nid enw grant mo hwn, ond disgrifiad.  Dyw hi ddim yn ymddangos yn ddefnyddiol o gwbl cyfeirio at UN cymhorthdal fel "Cymorth Grant" pan 'dych chi'n derbyn sawl un.
 
Beth yw'r arfer erbyn hyn?  Nid fy mod i'n hyderus y gallaf ddylanwadu o gwbl ar y term os mai dyna beth mae pobl y Llyfrgell yn ei ddefnyddio - jyst eisiau cyfiawnhau fy hun i mi fy hun!
 
Ann


-- 
Ceri Skinner

Swyddog Prosiect CyMAL          | CyMAL Project Officer
Adran Gwasanaethau Casgliadau   | Department of Collection Services
Llyfrgell Genedlaethol Cymru    | National Library of Wales
Aberystwyth, Ceredigion         | Aberystwyth, Ceredigion
SY23 3BU                        | SY23 3BU

01970 632472	  		  [log in to unmask]