Print

Print


Wel Sion
Mae na haen o'r byd addysg newydd wedi mynd heibio i ti heb i ti sylwi! 
Mae'r termau hyn wedi hen ennill eu plwyf.
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol  - Nat Occup Stands.
a Chymwysterau Galwedigaethol - Vocational Qualification

Os wnei di chwilio am Sector Skills Councils ac edrych ar rai o wefannau'r 
rhain, mi weli bod llawer ohonynt wedi mabwysiadu enw Cymraeg eisoes - felly 
dyna ddylet ti ei ddefnyddio sbo - cytuno neu beidio!
mafi


----- Original Message ----- 
From: "Sion Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, December 05, 2007 11:24 AM
Subject: Galwedigaeth x 2 ac enwau cyrff


> Helo,
>
> Dau gwestiwn os gwelwch yn dda. Diolch o flaen llaw.
>
> 1 Mae gen i "Vocational Qualification reform" a "National Occupational
> Standards" yn yr un frawddeg a gweld bod Vocational a Occupational ill dau
> yn rhoi "Galwedigaethol" yn y Bruce. Oes rhn. yn medru cynnig rhth. gwell?
>
> 2 Yn yr un ddogfen cyfeirir at wahanol gyrff, cwangoau am y mwyafrif. Oes
> yw'r corff yng Nghymru digon hawdd rhoi'r enw, e.e. WAG = LlCC. Fy
> ngwestiwn yw beth am y rhai tu allan i Gymru yn arbennig rhai heb enwau
> Cymraeg. Ai bathu, e.e. Skills for Justice = Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder,
> ac yna rhoi'r Saesneg ar ei ol mewn cromfachau, ynteu ei adael fel ag y
> mae? Neu gadael y peth yn Saesneg, e.e. Lantra a Scottish Enterprise ?
>
> Byddaf yn gwglo p'run bynnag rhag ofn bod dolen Gymraeg ar eu safleoedd
> gwe. En passant, ai "dolen" ynteu "linc"? Rhaid cyfaddef fod yr olaf yn
> creu iasau i lawr fy nghefn pan y'i darllenaf ar safle we y Cynulliad.
>
> Hwyl o Wlad Pwyl,
>
> Sion
>
> __________ NOD32 2703 (20071205) Information __________
>
> This message was checked by NOD32 antivirus system.
> http://www.eset.com
>
>