Print

Print


Helo,
 
Gwybodaeth gan Mam am darddiad yr enw: yng nghofiant Jane Williams (Ysgrafell) iddo, mae hi'n dweud mai dwy elfen yr enw yw "carn" (carreg) ac, fel yr awgrymwyd eisoes, "huan" sef yr hen air am "haul" - felly "carreg heulog". Ac fel y dywedodd Mam, "biti am yr 'awc', ond nid ei fai o oedd ei fod o wedi cael ei eni cyn cyhoeddi Llyfr yr Orgraff, naci?"
 
Gobeithio bod hyn o help!
 
Meg