Diolch Dai! ----- Original Message ----- From: Dafydd Roberts To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, July 10, 2007 9:17 PM Subject: Re: attention-marketing Marchnata sydd yn canolbwyntio ar anghenion y darpar-gwsmeriaid. Dweda dy fod ti'n chwilio am nwyddau neu wasanaeth arbennig a theipio geiriau allweddol i mewn i'r peiriant chwilio ar y we, diben 'attention marketing' ydy dal dy sylw dy yn gynta cyn bod unrhyw gwmni arall yn gwneud. Gobeithio bod hyn yn glir Cofion Dai Wrecsam ----- Original Message ----- From: Geraint Løvgreen To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, July 10, 2007 7:25 PM Subject: Re: attention-marketing Ond be ydio? Faswn i'n iawn i roi "marchnata dal-sylw" ? ----- Original Message ----- From: Dafydd Roberts To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, July 10, 2007 6:29 PM Subject: Re: attention-marketing Annwyl Geraint - tria 'sylw-farchnata' 'gofal-farchnata' 'marchnata astud' 'clust-farchnata' dibynnu ar y cyd-destun i raddau helaeth Dai Wrecsam ----- Original Message ----- From: Geraint Løvgreen To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, July 10, 2007 5:33 PM Subject: attention-marketing Unrhyw un efo syniad be di hyn plis? Diolch yn fawr. Geraint