Print

Print


Un peth sydd newydd fy nharo:
Mae "common land" ychydig yn debyg i "sheep" a "deer", yr un peth yn yr unigol a'r lluosog (er, wrth gwrs, bod modd dweud "common lands").  Gan y'i defnyddir yn aml, fel y dywedwch, i olygu "commons", mae "tiroedd comin" weithiau'n gwneud mwy o synnwyr na "tir comin", a dyna'r hyn a oedd yn fy mhoeni ynghylch teitlau'r deddfau.  Cymeraf y defnyddiwyd "tir comin" ar gyfer Deddf 1965, cyn i neb eistedd i lawr a meddwl trwy'r peth, a bod cyfieithwyr y ddeddfwriaeth ddiweddarach wedi penderfynu bod "tiroedd comin" yn cyfleu'r ystyr yn well?

Ann
  ----- Original Message ----- 
  From: Ellis, Audrey (IMD- CISD Translation Service) 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Thursday, June 07, 2007 11:16 AM
  Subject: Re: Commons


  Dyma sylwadau ar ran Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth y Cynulliad.

  1. Mae angen gwahaniaethu rhwng common a commons.
  2. Mae'r Ddeddf yn ymwneud â chofrestru mwy nag un comin. 

  Dyma bennawd yr adran gyntaf o'r Ddeddf:
  Registration of commons and towns or village greens and ownership of and rights over them

  Felly, os dyna'r dewis - byddwn o blaid "tiroedd comin" a dyna sy'n ymddangos mewn cyfieithiad diweddar fan hyn:
  The Commons (Severance of Rights) (Wales) Order 2007
  Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007
  Hefyd ceir: 
  Commons Act 2006 
  Deddf Tiroedd Comin 2006 

   Gellid ystyried defnyddio comin (comins) i olygu common (commons) a thir comin i olygu common land.  Er bod y Ddeddf yn sôn am "registration of commons" un funud ac am "registration of common land" y funud nesaf ac er bod modd dadlau bod y termau'n gyfystyr (gweler Robyn o dan common), rwy'n meddwl ei bod yn werth adlewyrchu geiriad y Saesneg wrth gyfieithu. Buasai hynny'n ei gwneud hi'n haws i gyfieithu darnau tebyg i'r canlynol: 

  Commons Registration Act 1965
  1965 CHAPTER 64
  An Act to provide for the registration of common land and of town or village greens; to amend the law as to prescriptive claims to rights of common; and for purposes connected therewith.

  Diolch

  Audrey

  Audrey Ellis 
  Swyddog Cymorth Terminoleg / Terminology Support Officer 
  Y Gwasanaeth Cyfieithu / Translation Service 
  Llywodraeth Cynulliad Cymru / Welsh Assembly Government 
  Ffôn / Tel:            01267 225292 
  E-bost / E-mail:   [log in to unmask] 

  Dylai'r datganiadau neu'r sylwadau uchod gael eu trin fel rhai personol ac nid o reidrwydd fel datganiadau neu sylwadau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, unrhyw ran ohoni neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig â hi

  Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not necessarily those of the Welsh Assembly Government, any constituent part or connected body.








------------------------------------------------------------------------------
  From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
  Sent: 25 May 2007 11:30
  To: [log in to unmask]
  Subject: Re: Commons


  Byddaf bob amser yn dilyn GyG os nad oes awdurdod arall. 

  Deddfwriaeth yw'r awdurdod uchaf, wrth gwrs, ac wedyn ddogfennau swyddogol megis canlllawiau a chyfarwyddiadau. Mae nifer fawr o ffynonellau eraill at gyfer pynciau neu feysydd penodol. Bydd TermCymru'n arbed llawer iawn o waith - diolch byth!



  Tim 

  Tim Saunders
  Cyfieithydd / Translator
  Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council Translation Unit
  Ty Trevithick
  Abercynon
  Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ
  Ffôn +44-(0)-1443-744000 


  Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
  Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
  Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
  dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
  Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
  fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
  Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.


  This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Rhondda Cynon Taf Council.
  The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
  It is intended only for the person or entity named above.
  If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
  If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
  intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
  of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful. 

    -----Original Message-----
    From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
    Sent: 25 May 2007 11:12
    To: [log in to unmask]
    Subject: Commons


    Enghraifft arall o wahaniaeth rhwng Geiriadur y Gyfraith a ThermCymru:

    Commons Registration Act 1965:
    GyG: Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965
    TermCymru: Deddf Cofrestru Tir Comin 1965

    Ar y llaw arall mae TermCymru'n rhestru
    Commons Registration Officer - Swyddog Cofrestru Tiroedd Comin
    Commons Registration Authority - Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin

    Gyda golwg ar hyn, tybed ydy cyfieithwyr y Cynulliad yn ymwybodol o enw swyddogol y:
    Commons Act 2006

    Byddwn i'n ddiolchgar am unrhyw gymorth - nid yw o dragwyddol bwys ar gyfer y ddogfen dan sylw, ond byddai'n neis ei gael ateb terfynol ar gyfer fy nghofnodion.

    Diolch,

    Ann

  This email was received from the INTERNET and scanned by the Government Secure Intranet anti-virus service supplied by Cable&Wireless in partnership with MessageLabs. (CCTM Certificate Number 2006/04/0007.) In case of problems, please call your organisation's IT Helpdesk. 
  Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes. 

  Derbyniwyd y neges e-bost hon o'r RHYNGRWYD a chafodd ei sganio gan wasanaeth gwrthfeirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSI) a ddarparwyd gan Cable&Wireless mewn partneriaeth â MessageLabs. (Rhif Tystysgrif CCTM 2006/04/0007). Os oes gennych unrhyw broblemau, cysylltwch â Llinell Gymorth TG eich sefydliad. 
  Mae'n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy'r GSI yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol. 

  The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet virus scanning service supplied by Cable&Wireless in partnership with MessageLabs. (CCTM Certificate Number 2006/04/0007.) On leaving the GSi this email was certified virus free.
  Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.

  Cafodd fersiwn gwreiddiol y neges e-bost hon ei sganio gan wasanaeth gwrthfeirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSI) a ddarparwyd gan Cable&Wireless mewn partneriaeth â MessageLabs. (Rhif Tystysgrif CCTM 2006/04/0007). Wrth adael y GSI nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â'r neges hon.
  Mae'n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy'r GSI yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol. 



------------------------------------------------------------------------------


  No virus found in this incoming message.
  Checked by AVG Free Edition. 
  Version: 7.5.472 / Virus Database: 269.8.11/837 - Release Date: 06/06/2007 14:03