Print

Print

Diolch am yr esboniad hirfaith, John!
 
Dwi bellach wedi cael hyd i'r gair "gwywair" gyda 60+ o gyfeiriadau ar Ŵgl.
 
Af i am hwnnw, dwi'n credu.
 
Claire
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Puw, John
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, December 12, 2006 3:35 PM
Subject: ATB: haylage

Mae’r disgrifiad o Wilkipîdia braidd yn niwlog Claire. 

Gellir gwneud “silage” (silwair) o unrhyw fath o laswellt, yn cynnwys alfalfa a chymysgedd o alfalfa a glaswellt, yn ogystal â gwenith, ceirch ac ati.  Mae’r silwair yn cael ei godi pan fo’r glaswellt wedi’i dorri’n las iawn, fel arfer ar ddiwrnod y torri neu’r diwrnod canlynol  – cyn iddo gynaeafu a sychu nes ei fod yn wair.  Tan yn ddiweddar, nid oedd gwahaniaeth rhwng “silage” a “haylage”. Pobl ceffylau sydd wedi cyflwyno’r gair “haylage” gan fwyaf – ond roedd ffermwyr yn aml yn cynaeafu’r silwair nes ei fod yn sych – yn dibynnu llawer ar y tywydd ar y pryd.  Silwair sych fydden nhw’n ei alw, mae’n debyg!  Mae gwair yn cael ei gynaeafu hyd nes ei fod yn hollol sych, ac nid oes angen ei silweirio.  Roedd gwair ers talwm (pan oeddwn i’n blentyn bach), yn aml yn cael ei wneud ddiwrnod yn rhy gynnar pan oedd y tywydd yn wael, ac roedd gwair glas weithiau’n poethi ac yn mynd ar dân!  Sy’n awgrymu rhywbeth – pe bai’r ffermwyr wedi silweirio’r gwair glas, byddai ganddynt “haylage” mae’n debyg!

Wedi meddwl, mae un gwahaniaeth arall rhwng silwair a gwair – mae gwair yn cael ei adael i dyfu ar y cae yn hirach, sy’n golygu ei fod yn marw ac yn sychu ychydig ar ei draed cyn ei dorri.  Mae hyn hefyd yn wir ar adegau gyda haylage – ond ddim bob amser.  Hynny yw, os ydw i’n deall yn iawn, gall yr hyn mae’r bobl ceffylau’n ei alw’n haylage gynnwys silwair sych a gwair glas!!!!!!!!!! 

Y gair pwysig yw’r “ensile” (silweirio) – mae’n rhaid gwneud hyn efo silwair a haylage gan y byddai silwair sych yn pydru a gwair glas yn llosgi heb y broses silweirio (hynny yw, ei wasgu gymaint â phosib, ac atal unrhyw aer a lleithder rhag cyrraedd ato – gellir gwneud hyn mewn byrnau mawr wedi’u lapio mewn plastig neu mewn cladd silwair gyda haenen o blastig drosto).

Felly be ddylid galw’r bali peth?  Byddwn i’n ffafrio “silwair sych” a dweud y gwir! Hynny yw, mae’n rhaid ei silweirio, felly silwair ydi o – nid gwair! Waeth be ddywed bobl y ceffylau!!

Sori fod hwn mor hirwyntog.

John

John Puw

Uned Gyfieithu/Translation Unit
Ffôn/Tel: 01492 510935
Mewnol/Internal: 6135
E-bost/E-mail: [log in to unmask]

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Pennawd Cyf.
Anfonwyd/Sent: 12 Rhagfyr 2006 14:43
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: haylage

Disgrifiad o Wikipedia:

"(Silage) is fermented and stored in a storage silo, a proocess called ensilage. 

Silage can also be made from many other field crops ... Haylage is a term used to describe ensiled forages, made up of grass, alfalfa and alfalfa/grass mixes."

A oes term Cymraeg am 'haylage' yn bodoli eisoes?

Claire

Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.  Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.

Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.  Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system.   Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol.  Diolch i chi am eich cydweithrediad.   

Heddlu Gogledd Cymru

Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.  North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.

This communication is intended for the addressee(s) only.  Please notify the sender if received in error and erase from your system.  Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy.  Thank you for your co-operation.

North Wales Police