Print

Print


Rhaid bod yn weddol ofalus wrth gymhwyso term technegol o faes fel economeg at faes mwy cyffredinol, er bod hwnnw hefyd yn yr achos hwn yn ymwneud ag arian.
 
Ar wefan http://economics.about.com/cs/economicsglossary/l/bldefleveragera.htm ceir y diffiniad hwn o 'leverage ratio':
 
The meaning of the leverage ratio differs by context. Often: the ratio of debts to total assets. Can also be the ratio of debts (or long-term debts in particular, excluding for example accounts payable) to equity.
 
Os oes i 'leverage' ym maes economeg yr ystyr arbenigol a awgrymir gan yr uchod, mae'n bosib mai doethach fyddai cadw draw rhag 'trosoli' a derbyn mai ystyr fwy cyffredinol sydd i 'leverage' yn 'leverage funding'. Gwell, felly, fyddai defnyddio un o'r ymadroddion a awgrymwyd gan Huw (Roberts) gynnau.
 
Fe all, wrth gwrs, mai 'trosoli' sy'n iawn, ond byddai'n well gen i gael cyngor pendant gan economegydd cyn ei ddefnyddio. Hyd yn oed wedyn, byddai ymadrodd mwy cyffredinol yn fwy dealladwy o lawer i'r darllenydd.
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Huw Tegid
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, May 16, 2006 11:23 AM
Subject: Re: YML: leverage funding

Helo John,

 

Dydw innau ddim yn hoff o gyfieithu pethau ariannol, ond dyma fentro cynnig ateb mewn cydymdeimlad!

 

Yn ôl Dictionary.com, gellir defnyddio ‘leverage’ i gyfleu:

“The use of credit or borrowed funds to improve one's speculative capacity and increase the rate of return from an investment, as in buying securities on margin.”

 

Gan gadw at y syniad o ‘drosol’ / ‘lever’, beth am ddweud rhywbeth fel hyn (estynnwch eich beiros coch, bawb - cynnig ar frys ydi hwn!)

"Cyfeirir at dystiolaeth o lwyddiant diweddar yn y maes hwn yn y ddogfen hon hefyd, ac mae’r cynnig hwn yn rhoi cyfle i fanteisio’n llawn ar arian trosoli o’r sector gorfforaethol"

"Evidence of recent success in this field is also referred to in this document and this proposal offers the opportunity to maximise leverage funding from the corporate sector"

 Mae'r ferf ‘trosoli’ i’w weld yma ac acw ar y we - er enghraifft, gweler

 

http://www.wda.co.uk/resources/e0911.pdf

 

“Ar yr ochr fusnes, mae Awdurdod Datblygu Cymru, ynghyd â MasnachCymru Rhyngwladol yn datblygu cyfres o fentrau er mwyn trosoli'r cysylltiad gyda'r Cwpan Ryder i godi proffil rhyngwladol Cymru a chyflwyno buddion economaidd.”

 

“On the business front the Welsh Development Agency along with WalesTrade International are developing a series of initiatives to leverage the association with the Ryder Cup to raise Wales’ International profile and deliver economic benefits.”

 

 

 

Er bod ‘sbarduno’ yn cael ei gynnig yn TermCymru fel rhywbeth sy’n iawn mewn rhai cyd-destunau ar gyfer cyfleu 'leverage', mae’n ymddangos bod hwnnw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer ‘seed’ - hynny yw (eto o Dictionary.com)

 

“To help (a business, for example) in its early development.”

 

 

gweler:

 

http://www.financinggrowth.co.uk/welsh/speakers/johnbates.htm

 

John Bates yw Athro Atodol Entrepreneuriaeth Ysgol Fusnes Llundain. Yn ystod y 9 mlynedd ddiwethaf bu'n ehangu mentrau ymarferol yr ysgol i ddatblygu cwmnďau entrepreneuraidd, gan gynnwys cronfeydd cyfalaf 'sbarduno' a 'chyn sbarduno', ynghyd ag amrywiol rwydweithiau entrepreneuriaid, cynghorwyr a buddsoddwyr sydd ynghlwm ag Ysgol Fusnes Llundain.

 

http://www.financinggrowth.co.uk/english/speakers/johnbates.htm

 

John Bates is Adjunct Professor of Entrepreneurship at London Business School. Over the last 9 years he has built up the School's practical initiatives for developing entrepreneurial firms including 'pre seed' and 'seed' capital funds, and various networks of entrepreneurs, advisors and investors associated with the London Business School.

 

 

Cofion gorau,

Huw


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siân Roberts
Sent: 16 May 2006 18:38
To: [log in to unmask]
Subject: Re: YML: leverage funding

"Trosoledd" sydd yn adran gyllid Geirfa Bwrdd yr Iaith hefyd.

Hwyl
Siân
On 16 Mai 2006, at 02:34, Puw, John wrote:

Ond mae'r isod yn gwneud rhyw fath o synnwyr:
 
Leverage:
A method of grantmaking practiced by some foundations and individual donors. Leverage occurs when a small amount of money is given with the express purpose of attracting funding from other sources or of providing the organization with the tools it needs to raise other kinds of funds; sometimes known as the "multiplier effect."
 
A gan fod "Termau Cyfrifeg" Gwasg Prifysgol Cymru yn cynnig trosoledd am leverage, bydd yn rhaid ei ddefnyddio mae'n debyg.
 
John
 
 


Oddi wrth/From: Puw, John
Anfonwyd/Sent: 16 May 2006 10:00
At/To: 'Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary'
Pwnc/Subject: leverage funding

Mae llawer o gyfeiriadau at hyn ar gwgyl - a'r unig gyfieithiad o leverage yn TermCymru yw trosoledd.  Mae 74 cyfeiriad at y gair hwnnw ar gwgyl, yn cynnwys y cyswllt amheus isod
 
http://cy.wiktionary.org/wiki/Hafan sy'n dweud y canlynol am y gair!!
 

"Yn golygu trosoledd

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Jump to: navigation, search

Yr ydych wedi dilyn cysylltiad i tudalen sydd ddim wedi gael eu creu eto.
I creuo'r tudalen, dechreuwch teipio yn y bocs isaf (gwelwch y tudalen help am mwy o hysbys).
Os ydych yma trwy camgymeriad, cliciwch eich botwm nôl"

Mae'n siwr y byddai creuo'r tudalen yn defnyddiol thros pen, ac yn gynnig lawer o hysbys i trueiniad fel fi sy'n anhapus trybeilig â'r air drosoledd.  Dywed GPC (nad yw eto wedi cynnwys y gair creuo - diolch i'r drefn!!!:-) y canlynol.

Trosoledd:  Gweithrediad neu rym lifer, mantais fecanyddol a geir o ddefnyddio lifer, hefyd yn ffig.: leverage

O edrych yn y Shorter Oxford English, mae'r cyfeiriadau at leverage fwy neu lai yn wrthrych o'r hyn a welir yn GPC, oni bai nad yw'n cynnwys fig.: trosoledd ar y diwedd.  

Er hyn, mae 21,000,000 o gyfeiriadau at leverage funding ar gwgyl, felly mae'n rhaid bod sail i'r gair ond be ar y ddaear ydi'r sail honno? O roi glosary definition ar ôl y ddau air dan sylw yn gwgyl, cefais ddiffiniadau sy'n awgrymu fod y gair leverage yn ymwneud â benthyg arian, ond bod cwnmi sy'n "fully leveraged" yn cael trafferth benthyg mwy o arain.  Mae'n gas gen i gyfieithu unrhyw beth arainnol!!!!! 

Dyma'r term yn ei gyd-destun:

"Evidence of recent success in this field is also referred to in this document and this proposal offers the opportunity to maximise leverage funding from the corporate sector"

Rwy'n amau fod awdur fy nogfen wedi defnyddio'r gair anghywir gan nad oes son am fenthyg yn yr holl ddogfen.  Unrhyw sylwadau?

John!!!


--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.392 / Virus Database: 268.5.6/340 - Release Date: 15/05/2006


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.392 / Virus Database: 268.5.6/340 - Release Date: 15/05/2006