Ie'n wir, y gynau mawr yn tanio, a chreu ffrwgwd deuluol yn y fargen!. Byddai'n well petawn wedi aros yn y byncar. Gan fy mod yn gweithio ar ddogfen addysgol i awdurdod lleol cyffiniol ag awdurdod y brawd Teimoth yr wyf am ddefnyddio 'Awdurdod Addysg Esgobaethol Catholig' ac'Ysgolion Catholig Rhufeinig' (CR). O leiaf wedyn bydd cysondeb rhwng dwy ddogfen. Yr wyf wrth wneud hynny yn ymwadu â'r Tadau Methodistaidd a ddeallai safbwynt y Tad Fitzgerald yn burion gan mai 'Capal Pâb' yw'r enw ar lafar ym Môn am Eglwys Gatholig. Onid mater o gyfaddawd parhaus yw bywyd? Llawer o ddiolch, Bryn --------------------------------- ALL-NEW Yahoo! Messenger - all new features - even more fun!