Diolch yn fawr i Berwyn a Nia. ‘Cyfwerthu’ amdani felly gan mai ‘to make of equivalent value’ yw’r ystyr mewn gwirionedd.
Garmon
-----Original
Message-----
From: Discussion of Welsh language
technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 15
September 2004 13:37
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: equivalise
Rhag ofn y bydd o gymorth, mae td 724 Geiriadur Prifysgol Cymru yn rhoi:
cyfwerth = equivalent
cyfwerthu = to make of equivalent value
cyfwerthedd = equivalence
cyfwerthol = equivalent
(Os nad yw 'cyfwerthu' yn taro deuddeg fe ellid, mae'n debyg, fathu'r berfenw 'cyfwertholi', yr enw 'cyfwertholiad(au)' a'r ansoddair 'cyfwertholiadol' - a 'cyfwertholyn' i gyfleu geek sy'n ymhyfrydu yn y prosesau perthnasol ...).
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]">Garmon Davies
To: [log in to unmask]">Berwyn Prys Jones
Sent: Wednesday, September 15, 2004 1:20 PM
Subject: equivalise
A oes unrhyw un wedi cyfieithu hwn o’r blaen? Mae’n codi mewn dogfen yr wyf yn ei chyfieithu sy’n trafod lefelau incwm aelwydydd yng Nghymru. Dyma’r frawddeg: “HBAI analyses are based on ‘equivalised’ incomes”. Mae term arall cysylltiedig, ‘equivalisation’, hefyd yn codi yn y frawddeg hon: “The incomes of individuals are derived by applying a range of equivalisation factors to household incomes that take account of the size of the household and the age and other characteristics of the household members”. Dyma ddiffiniad y dois o hyd iddo ar y We:
Equivalise:
Divide Household BHC Income, and all incomes sources by the BHC
Equivalence Scale;
Divide Household AHC Income by the AHC Equivalence Scale.
A fyddai ‘cyfwerthu’ (‘equivalisation’) / ‘wedi’u cyfwerthu’ (‘equivalised’) yn dderbyniol? Alla i ddim meddwl am unrhyw beth arall ar y funud. Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw awgrymiadau.
Diolch yn fawr!
Garmon