Sori, newydd ddeall pam awgrymodd Gwynallt ‘camddefnyddio’ – sef er mwyn hepgor ‘a ddelir a llaw’ a chyfleu’r ffaith bod y ffôn yn nwylo’r sawl sy’n ei defnyddio yn hytrach nag mewn peth dal ffôn a bod hynny’n gyfystyr â ‘chamddefnyddio’ – sori Gwynallt, fues i erioed yn un da am feddwl ‘yn ochrol’!
Ond rwy’n dal yn meddwl y byddai ‘camddefnyddio’ yn rhoi pob math o syniadau ym meddyliau pobl, e.e. y dadlau sydd rhwng gŵr a gwraig pan fo’r naill yn dweud ‘chwith yn fan yma’ a’r llall newydd yrru heibio i’r cyfryw droad...
Garmon
-----Original
Message-----
From: Discussion of Welsh language
technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of Garmon Davies
Sent: 09 February 2004 17:53
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: Handheld mobile phone
Onid yw ‘defnyddio’ yn ddigon? Nid oes rhaid camddefnyddio’r ffôn wrth yrru (ac mae dyn yn arswydo wrth feddwl beth fyddai hynny!) i dorri’r gyfraith...
Garmon
-----Original
Message-----
From: Discussion of Welsh language
technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of Gwynallt Bowen
Sent: 09 February 2004 17:38
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Handheld mobile phone
Cam ddefnyddio ffôn symudol wrth
yrru?
Gwynallt