Mae un neu ddau o eiriaduron (yn cynnwys y Termiadur) yn cynnig "ymgysylltiad" ar gyfer yr uchod mewn cyd-destun cyfrifiadurol. Ai dyma sy'n cael ei ddefnyddio bellach, neu a yw'r farn wedi newid? Wedi'r cyfan, atodiad ydi'r peth, a byddai brawddeg fel "Peidiwch ag agor neges sbam os yw'n cynnwys ymgysylltiad" yn ddiystyr i mi, ond byddwn yn deall "Peidiwch ag agor neges sbam os yw'n cynnwys atodyn". - mae'r Termiadur hefyd yn cynnig atodyn, ond mewn cyd-destun heb fod yn gyfrifiadurol. Mae'n siwr fod yna reswm dros ddefnyddio'r gair ymgyslltiad, ond beth yw'r farn? Diolch John John Puw Uned Gyfieithu/Translation Unit Est/Ext 6135 e-bost/e-mail "[log in to unmask]" Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig. Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda. Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon. This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police. The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged. It is intended only for the person or entity named above. If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system. If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.