Print

Print


Ysbrydoledig!
Awenyddol!

-----Original Message-----
From: Geraint Løvgreen [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 30 January 2004 12:00
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Potty Parity


Cydraddoldeb Caca.
Paredd pi-pi/pw-pw.

----- Original Message ----- 
From: Saunders, Tim <mailto:[log in to unmask]>  
To: [log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]>  
Sent: Friday, January 30, 2004 11:41 AM
Subject: Re: Potty Parity

Mae'n siwr o ddod ryw dro, ac felly man a man inni gael ymadrodd cryno,
clir, ac mor weddus ag y bo modd. Deallaf fod cyfleusterau'r ddau ryw yn dal
ar wahan, ond bod mwy o le yn mynd at angenrheidiau'r rhyw fenywaidd.

-----Original Message-----
From: Puw, John [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 30 January 2004 11:36
To: [log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]> 
Subject: Re: Potty Parity



Ai er gwybodaeth mae hyn, neu a wyt yn gofyn am gyfieithiad?  
Toiledau Un Rhyw? 
Neu wrth gwrs, CCC - Cyfle C**** Cyfartal? 
Dim ond awgrym, a mae hi yn ddydd Gwener! 

-----Original Message----- 
From: Saunders, Tim [ mailto:[log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]> ] 
Sent: 30 January 2004 11:20 
To: [log in to unmask] 
Subject: Potty Parity 


Yr enw yn ardaloedd Saesneg Gogledd America ar drefniadau parthed tai bach
cyhoeddus sy'n rhoi cyfle cyfartal i'r ddau ryw gyflawni'u dyletswyddau
personol fel nad oes rai i'r naill garfan na'r llall aros am hydoedd mewn
cwt cyn cael manteisio ar y cyfleusterau a ddarparwyd. Deallaf fod y
diwygiad yma wedi dechrau yng ngwledydd Llychlyn, ond nid wyf yn sicr. Enw
arall ar y peth yw 'Excretory Equity'.

Yn iach, 

Tim 


Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru. 
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn
gyfreithiol freintiedig. 
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os
derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, 
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn
dda. 
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n
gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, 
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu,
dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. 
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.


This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view
of North Wales Police.
The information contained in this communication is confidential. It may be
legally privileged. 
It is intended only for the person or entity named above. 
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase
this e-mail from your system. 
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible
for delivering it to the 
intended recipient, you are hereby notified that any use, review,
dissemination, distribution or copying 
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.