Print

Print


Efallai byddai  "rhaedrol" yn well.  Mae "rhaedrog" yn golygu "abounding in
waterfalls".  Felly, gallai gwlad neu afon fod yn rhaedrog, ond byddai'r dwr
ei hun yn rhaedrol.
Ann, yn dilyn eglurhad gan Bruce
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, January 22, 2004 2:48 PM
Subject: Re: Mwy o dermau TGCh


> > Dyma benawdau sy'n ymddangos mewn seminar ar Hygyrchedd a
> > Safonau'r We.  Does gen i ddim esboniadau yn anffodus.
> >
> > Cascading Stylesheets
>
> Yr ystyr yw fod y stylesheet yn disgrifio pa arddull i'w ddefnyddio ar
> gyfer pob elfen o fewn gwefan. Felly mae'r tudalennau yn gallu dweud
> "dyma'r prif deitl' a mae'r arddull yn dweud sut mae dangos pob prif
> deitl.
>
> Mae rhai wedi bod yn defnyddio 'llen / llenni arddull'. Mae'r
> dechnoleg yn gadael nifer o lenni arddull i'w cyfuno ar y dudalen sy'n
> esbonio'r 'cascading' - dwi wedi gweld 'rhaeadrog' am hyn.
>
> Felly 'llenni arddull rhaeadrog'?
>
> > Structural markup
>
> Yn syml - cofnodi strwythur dogfen. Defnyddir 'iaith nodi' neu 'iaith
> cofnodi' i son am 'markup language'. Fasen i yn dweud
> "Nodi strwythurol".
>
> > Longdesc
>
> Priodoledd o fewn iaith HTML/XHTML er mwyn rhoi disgrifiad testunnol
> (hir) ar gyfer graffeg sydd yn cyfleu gwybodaeth gymleth.
> 'Sdim angen ei gyfieithu.
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
>



Message has been scanned by Webshield