Fel mae Berwyn yn deud, mae'n bur anodd ateb y
cwestiwn. Jyst o ran myrrath, dwi wedi cadw cofnod o be dwi wedi'i neud heddiw
gan fod yr holl betha hynny wedi'u gorffen yn dwt o fewn yr un diwrnod ac yn
haws eu clandro. Dwi wedi gweithio tua 4 awr a hanner, am na doedd gen i fawr ar
y gweill, ac wedi gneud tua 4,500 o eiriau. Popeth wedi'i brawfddarllen a'i
anfon. Ar ddiwrnod pan fydd gen i lwyth o waith ac wrthi fel lladd nadroedd yn
cyrraedd dyddiada terfyn, fydda i'n gneud mwy na hynny (ac yn gweithio am dipyn
mwy na 4 awr a hannar!) Roedd y petha oedd gen i heddiw yn eitha hawdd a dim
rhaid turio mewn geiriaduron trwy'r amser. Efo petha ailadroddus iawn sy'n llawn
geiria/ymadroddion y medra i neud 'Find & Replace' arnyn nhw faswn i'n
disgwyl gneud hyd at 8,000 o eiria. Dwn i ddim os ydi hynny o unrhyw
help?
Annes