'Roedd y drafodaeth o dan "Brygaerau" ym mis Mehefin llynedd. Adeg yna, edrychodd Bruce yn "Place Names of Pembrokeshire" a methu dod o hyd i enw Cymraeg. Dywedodd, cyn clywed yr ail neges, fod "Trwyn yr As" yn swnio cystal a dim, ond nawr mae o'n gofyn am fanylion y map yr ydych yn son amdano, Sian, os gwelwch chi'n dda, a sut mae cael gafael ynddo. Ann ----- Original Message ----- From: Sian Roberts To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, February 04, 2003 12:27 PM Subject: Re: Nash Point Trwyn ar As sydd ar y Map yn y Gymraeg (Cyhoeddiadau Stad) Sian -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Glenys Roberts Sent: 04 February 2003 11:49 To: [log in to unmask] Subject: Nash Point Mae rhywun wedi holi am hwn o'r blaen, ond wela i ddim ateb yn yr archifau. Mae 'na lefydd o'r enw Yr As Fach (sef Nash yn ôl y Gazetteer) a'r As Fawr (sef Monknash) (maen nhw i'w gweld ar y map sydd yn Crwydro Bro Morgannwg, Cyfrol 1). Mae Nash Point ger Marcroes (ond nid yw ar y map!). Alla i fentro 'Trwyn yr As', neu oes rhywun yn gwybod yn wahanol? Mae yno gaer bentir o Oes yr Haearn, felly byddai rhywun yn disgwyl bod enw Cymraeg. Diolch am unrhyw oleuni Glenys --- Incoming mail is certified Virus Free. Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). Version: 6.0.449 / Virus Database: 251 - Release Date: 27/01/2003 --- Outgoing mail is certified Virus Free. Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). Version: 6.0.449 / Virus Database: 251 - Release Date: 27/01/2003