Dw i'n cyfieithu cynllun ar gyfer safle ar y we. Dyma, cyhyd ag y gallaf weld, enw un o'r botymau - a oes gan unrhyw un syniad at beth mae'n arwain? Gwn mod i bob amser yn dweud wrth bobl eraill i ofyn i'r cwsmer, ond mae hyn ar gyfer asiantaeth y mae arni eisiau'r gwaith erbyn hanner dydd yfory (dydd Gwener). Gyda llaw, teimlais yn anniddig iawn mod i ddim wedi diolch am yr help a gefais y tro diwethaf, er bod gennyf syniad i'r rheolau ddweud na ddylid anfon negeseun nad ydynt ond ebychiadau, neu ddiolchiadau. Felly dyma lawer o ddiolch ymlaen llaw i unrhyw un all helpu. Ann