Print

Print


Diolch yn fawr Elin:
GPC: gwrm/gwrwm:  brown, brown tywyll, cochlyd, gwineulwyd, llwytu, tywyll,
du, dulas, glas tywyll, glas !!
Beth mae hynny'n ei ddweud wrthym am synnwyr lliw y Cymry?
Mae'n fy nharo i'n rhyfedd o hyd - hyd y gwela i, dydi "glas" ddim yn gallu
golygu "brown" ac mae'r creadur bach yma yn sicr yn frown.
Sian


----- Original Message -----
From: "Elin Meek" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, March 27, 2002 10:59 AM
Subject: Re: Brown Argus


> Yn y llyfr Ieir Bach yr Haf, Gomer, 1995, Addasiad Cymraeg gan Dafydd
Dafis,
> yr hyn a geir t.26 yw:
>
> Gwrmyn Glas  - gyda Brown Argus ar ei ôl yn y mynegai, t.60.
> Yna, Gwrmyn Glas yr Alban - Mountain neu Scotch Brown Argus yn y mynegai.
>
> Gwrmyn y Ddôl yw'r enw ar Meadow Brown wedyn.