OS bydd rhai ohonoch ddigon ffodus i fynd i ffwrdd ar eich gwyliau; AC os byddwch yn defnyddio system i anfon neges e-bost yn awtomatig i ddweud hynny, at bawb sy'n anfon neges atoch chwi; YNA a fuasech cystal â gosod y system fel nad ydych yn derbyn negeseuon welsh-termau-cymraeg dros dro. Gofynnir ichwi wneud hyn neu, bob tro yr anfonir neges at y cylch trafod, bydd y negeseuon awtomatig yn cael eu cynhyrchu'n ddirifedi. Er mwyn gosod y system ewch at: http://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/wa.exe?SUBED1=welsh-termau-cymraeg&A=1 ac ar waelod y tudalen a dewis y blwch: Miscellaneous [] Mail delivery disabled temporarily. Pan ddeloch yn ôl: yn lliw haul/ wedi torri eich coes/ yn dioddef gyda'ch stumog/ yn dlawd... gellwch ail osod y system i dderbyn negeseuon, a hefyd gellwch ddarllen pob neges gollwyd gennych ar yr archifau. Prys -- ------------ J P M Jones MA PhD CChem FRSC Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education Trefenai Ffordd Caergybi Bangor Gwynedd LL57 2PX tel +44 1248 382955/383013 ffacs +44 1248 383990