Ann Dyma droi nôl at y cwestiwn yma ar ôl eich gweld yn atgoffa pawb amdani ddoe! Mae gan y Cynulliad is-ddeddfwriaeth ar y gweill ynghylch labelu bwydydd newydd a chynhwysion bwyd newydd. Yr ymadrodd sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer "genetically modified" yw "a newidiwyd yn enetig" ac rwy'n gobeithio mai dyna fydd holl ddeunyddiau swyddogol y Cynulliad yn ei ddefnyddio yn gyson. Pan fydd y rheoliadu wedi'u gwneud, fe fyddan nhw i'w gweld, fel gweddill yr is-ddeddfwriaeth sydd wedi'i gwneud gan y Cynulliad, ar wefan HSMO: http://www.wales-legislation.hmso.gov.uk/legislation/wales/w-stat.htm -----Original Message----- From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]] Sent: Thursday, April 27, 2000 11:47 AM To: welsh-termau-cymraeg Subject: Genetic Modification A allech chi wyddonwyr roi help llaw imi. 'Rwy'n cyfieithu dogfen s'yn ymwneud a^ 'r canlynol: genetic modification/genetic engineering/biotechnology DNA germ line therapy xenotransplants terminator technology Mae rhan o'r gwaith eisoes wedi'i chyfieithu, ond nid wyf yn hapus iawn a^ defnyddio "cyfnewidiadau genynnol" ar gyfer genetic modification. Nid wyf yn gymaint yn gofyn am awgrymiadau, ond gofyn i bobl sydd yn gyfarwydd a^'r maes pa dermau sydd eisoes yn cael eu harfer, e.e. ydych chi'n tueddu i ddefnyddio "genetig" ynte "genynnol" ar gyfer genetic? Llawer o ddiolch, Ann Corkett %%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%