On Jul 18, 2012, Rhian Huws wrote:
> Oes gan unrhyw un syniad beth yw hwn yn Gymraeg?
Dyw Twitter eu hunain ddim yn defnyddio 'Twitter feed' nac yn ei
ddiffinio.
Mae'n cael ei ddefnyddio yn anffurfiol mewn dau gyd-destun:
* Rhestr o negeseuon diweddaraf defnyddiwr Twitter, i'w fwydo i rywle
arall
* Bwydo gwybodaeth i fewn i Twitter o ffynhonnell arall fel newyddion,
blog ac ati.
Oherwydd yr anffurfioldeb mi fyddai 'ffrwd' yn iawn. (I fi, mae
hynny'n disgrifio syniad anghywir ond dyw'r defnyddiwr cyffredin ddim
yn gwybod).
|