Diolch i bawb ar y ddau gylch ar gyfer eu sylwadau a'u hawgrymiadau. Do'n i
ddim wedi disgwyl codi cymaint o drafodaeth.... o edrych ar nifer o
safleoedd Google mewn ieithoedd gwahanol, mae'r gair yn codi sawl gwaith ym
mhob un, felly effallai mai gair gwir ryngwladol na fyddai'n briodol ei
gyfieithu ydyw. Ond pwy a wyr....
David Symons
Uned Gyfieithu San Helen, Abertawe
St Helen's Translation Unit, Swansea
Ffôn/Phone 01792 462067
Ffacs/Fax 01792 646903
> ----------
> From: Puw, John[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: 14 September 2004 13:11
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: geek
>
> Alla i ddim meddwl am air Saesneg arall sy'n cyfleu geek, oni bai am
> anorac! Tydi'r gair ddim yn y Shorter OED (1984) sydd gen i, nac yn ein
> thesawrws ychwaith.
>
> Ydi'r cyfieithiad yn gorfod bod yn ddifrïol? Ydi o'n gorfod dilyn fod
> rhywun sy'n "computer geek" yn rhywun diwerth? Neu ydi o'n arbenigwr
> werth ei nabod oherwydd ei allu i gynnig cymorth mewn byd sy'n hollol
> dywyll i'r rhan fwyaf ohonom. Mae'n rhaid i mi gyfaddef na alla i ddim
> gweld llawer o ddefnydd i arbenigwr playstation ac ati, ond bawb at y peth
> y bo!
>
> Gyda llaw, gen i gw^yn.
>
> Daeth ymateb Geraint yn wreiddiol trwy gyfrwng cylch Tim. Sydd yn
> eithriadol o gynhyrchiol! Ac sydd hefyd yn eithriadol o gymhleth gan fod
> gwasgu reply yn eich cyfeirio yn ôl at yr anfonwr diwethaf, sef Geraint
> Løvgreen yn yr achos hwn. Onid oes lle i faddau a derbyn cyfaill sy'n
> cyfrannu cymaint yn ei ôl i'r cylch? Mae llawer yn methu gweld yr holl
> negeseuon oherwydd nad ydynt yn ymddangos ar restr y cylch, ac mae hyn
> hefyd yn golygu fod archifau WTC yn anghyflawn. Gallai Tim (ac eraill
> sydd o'r un anian â fo megis Gorwel sydd newydd anfon neges hollol dwp a
> gwamal, ond ddaru wneud i mi wenu) ddal i ddefnyddio'r cylch cyfyng ar
> gyfer negeseuon llai difrifol, ond defnyddio'r cylch ar gyfer cyfraniadau
> sydd o fudd i bob cyfieithydd yng Nghymru! Rwan, amser cinio ac amser i
> mi orffen traethu!
>
>
>
>
> Ond mae "climach" yn golygu dyn tal tenau yn ôl y geiriadur: all "geek"
> fod yn stwcyn tew am wn i!
>
> Dwi'n cytuno nad ydi "llipryn" yn cyfleu'r ystyr chwaith, ond ar hyn o
> bryd sgen i ddim byd cadarnhaol i'w gynnig.
>
> (Sori, gas gen i anfon negeseuon negyddol sy'n cynnig dim byd gwell)
>
> Geraint
>
>
>
>
>
> Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
> angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
> Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn
> gyfreithiol freintiedig.
> Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os
> derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
> dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch
> yn dda.
> Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n
> gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
> fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu,
> dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
> Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
>
>
> This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view
> of North Wales Police.
> The information contained in this communication is confidential. It may be
> legally privileged.
> It is intended only for the person or entity named above.
> If you have received this e-mail in error please notify originator and
> erase this e-mail from your system.
> If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible
> for delivering it to the
> intended recipient, you are hereby notified that any use, review,
> dissemination, distribution or copying
> of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
>
******************************************************************
This email and any files transmitted with it are confidential
and intended solely for the use of the individual or entity to
whom they are addressed. If you have received this email in error
please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn
gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd
hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy
gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]
*******************************************************************
|