Wn i ddim byd am y llsg sy'n cael ei chyfieithu heblaw mai rhyw gyfeiriad at daith i Batagonia (Mimosa?) a glanio ym Mae Newydd sydd ynddi. Mae orgraff ansafonol y Saesneg yn awgrymu nad oedd yr awdur yn llawer o giamster ar sgwennu yn Saesneg ond ni chredaf fod hyn yn ddigon o reswm dros adlewyrchu hyn yn y cyfieithiad Cymraeg, ond barn bersonol ydy hynny! Mae'n wir fod nifer o hen ddyddiaduron y cyfnod o'r Wladfa hefyd yn frith o amrywiadau o ran orgraff yn Gymraeg, boed yn chwiw bersonol neu'n dangos dylanwad tafodieithol yr awdur. Os yw'r dyddlyfr i gyd yn ansafonol fel hyn, gellid dadlau o bosib fod cyfiawnhad dros greu rhywbeth tebyg yn Gymraeg. Ond ni fuaswn yn cymeradwyo hyn fy hun!
Mae'n dibynnu hefyd at ba bwrpas y
cyfieithir y ddogfen.
Paul.
Paul W. Birt, PhD
Chaire d'Études celtiques,
Université d'Ottawa,
70, rue Laurier,(131)
Ottawa,
K1N 6N5
Ontario
Canada
www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
Tél. (613)562-5800(3767)
Téléc/Fax (613)562-5138.
-----Original Message-----
From: Eluned Mai <[log in to unmask]>
Date: Sat, 9 Dec 2006 11:25:00
To:[log in to unmask]
Subject: Re: Droped ancere New Bay
Llawer iawn o ddiolch, Paul. Mae'r wybodaeth hon am Fae Newydd o fudd
mawr. Beth rydych chi'n feddwl am y sillafiad o'r gair 'anchor', sef
'ancere'? Ydy o'n rhywbeth i'w wneud efo'r hen ffurf Saesneg 'ancer'?
Tybed ddylwn i wneud rhywbeth i gyfleu hyn yn y Gymraeg. Dwi wedi
edrych yn GPC ac 'angor' yw 'angor' ers y 12fed ganrif (er bod un
cyfeiriad at 'bvru aghoreu). Neu a ddylwn i roi nodyn yn rhywle i
ddweud mai fel hyn y cafodd ei sillafu yn yr iaith wreiddiol?
Llawer o ddiolch eto
Eluned
On 12/8/06, Pawl <[log in to unmask]> wrote:
> Mae hyn yn swnio'n debyg iawn i gyfeiriad at Bae Newydd neu Bahia Nueva ym Mhatagonia lle cynhaeddodd y Mimosa yng Nghorffennaf1865. Bae Newydd oedd y ffurf ar lafar am gryn amser ar ôl hynny. Daeth yr enw Porth Madryn i ddisodli'r hen enw erbyn diwedd y ganrif. Ceir nifer o ddogfennau o'r cyfnod yn Gymraeg sydd weithiau cadw at yr enw Saesneg New Bay.
>
> Paul W Birt
> Paul W. Birt, PhD
> Chaire d'Études celtiques,
> Université d'Ottawa,
> 70, rue Laurier,(131)
> Ottawa,
> K1N 6N5
> Ontario
> Canada
> www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
> Tél. (613)562-5800(3767)
> Téléc/Fax (613)562-5138.
>
>
> -----Original Message-----
> From: Eluned Mai <[log in to unmask]>
> Date: Thu, 7 Dec 2006 22:50:08
> To:[log in to unmask]
> Subject: Droped ancere New Bay
>
> Mae hwn allan o ddyddlyfr o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Oes rhywun
> wedi dod ar draws y math yma o beth o'r blaen? Beth ddylid ei wneud
> wrth gyfieithu?
>
> Diolch o flaen llaw
>
> Eluned
>
|