Mae'n bwysig sylweddoli wrth drafod termau fel hyn nad ymwneud â'r iaith
naturiol bob dydd ydym ni ond â maes technegol arbenigol (yn y fan hon, y
gyfraith). Bu'r holwr gwreiddiol yn ddigon craff i gynnwys y diffiniad
cyfreithiol o'r term yn y cyd-destun penodol yr oedd ganddo ef ddiddordeb
ynddo - a gwelir o hynny mai "...all the rights, duties, powers,
responsibilities and authority which by law a parent has in relation to the
child..." oedd y diffiniad - pob rhiant yn unigol felly, ac mae'n
gamarweiniol yn y cyd-destun hwn ei ddehongli fel cyfrifoldeb rhieni yn
gyffredinol. Wrth gwrs, mewn iaith bob dydd, mae'n gywir ac yn dderbyniol
sôn am gyfrifoldeb rhieni yn gyffredinol yn ddigon aml, ond mater arall yw
hwnnw. Nid yw bathu term newydd fel 'rhieniol' ychwaith yn gymorth yma,
mae'n ddiangen yn y cyd-destun hwn, ac nid yw'n ein cynorthwyo i ddeall mai
cyfrifoldeb sydd gan bob rhiant yn ei ddal yn unigol sydd dan sylw yma.
Delyth Prys
Canolfan Safoni Termau
Prifysgol Cymru, Bangor
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|