Y term sydd wedi'i dderbyn yn Gymraeg am "parental responsibility" yw
"cyfrifoldeb rhiant" (mae "cyfrifoldebau rhiant" yn y lluosog yn cyfateb i
"parental responsibilities". Fe'i defnyddiwyd gyntaf yn Geirfa Gwaith
Plant/Child Care Terms (Gwasg Prifysgol Cymru 1993) sy'n seiliedig ar
Ddeddf Plant 1989. Hefyd o ddiddordeb os ydych chi'n gweithio ym maes
gwaith cymdeithasol mae geiriadur newydd "Termau Gwaith a Gofal
Cymdeithasol" a luniwyd gan y Ganolfan Safoni Termau ym Mhrifysgol Cymru,
Bangor i CCETSW ar fin ei gyhoeddi (allan erbyn y Nadolig medd yr
optimistiaid).
Ai gwall am 'maethu' (to foster) yw meithrin (to nurture) sydd yn nheitl
eich llyfryn?
Delyth Prys
Canolfan Safoni Termau
Prifysgol Cymru, Bangor
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|