Diolch am eich cyfieithiad - defnyddiol iawn!
Yn gywir,
Eleri Wyn Jones
----- Original Message -----
From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, August 30, 1999 2:21 PM
Subject: termau Cymraeg ar gyfer y we
Oddi wrth Ann Corkett ar ran Bruce Griffiths.
Mae rhai o'r termau hyn eisoes ar gael mewn rhestrau termau cyfrifiadurol.
Mae diffyg gwybodaeth am ystyr rhai o'r termau Saesneg yn rhwystr wrth
gynnig cyfieithiadau. Os nad ydych chi'n fodlon bod y term a awgrymir yn
ddisgrifiad cywir o'r sefyllfa, a wnewch chi egluro'n fwy manwl.
"Internet = Rhyngrwyd" - iawn
"Directory = Cyfarwyddiadur / Cyfeirlyfr?" - Cyfeiriadur (gweler Geiriadur
Termau Cyfrifiadureg, MEU Cymru)
"Browser = Porwr" - iawn
"Homepage = Hafan / tudalen Hafan" - o'r dau, "Hafan", ond pam nad
"Tudalen Cartref"?
"menu = dewislen" - iawn (gweler GTC)
"Secure site(s) = Safle gaeth / Safleoedd caeth ??" - pam nad "safle
diogel" (gwrywaidd yw "safle")
"database = bas data" - cronfa ddata
"publish = cyhoeddi" - iawn
"site = safle / safwe" - gwefan (-nau) (benywaidd)
"key words = allwedd-eiriau / geiriau cyswllt ?" - allweddeiriau (dim
heiffen, un gair)
"register on-line = cofrestru-ar-lein ?" - cofrestru ar lein (dim heiffen,
tri gair)
"e-mail = e-bost" - iawn
"Bulletin Board =" Hysbysfwrdd (Hysbysfyrddau)
"Discussion group = cylch trafod / siop siarad ?" - cylch trafod
"hosting = cynnal / lletya ??" - lletya
"hot link = geiriau cyswllt / linc gyswllt ??" - dolen gyswllt
"screen grab = sgrîn gip / sgrîn gipion" - ystyr?
Term arall sydd yn ennill ei blwyf yw:
Intranet - Mewnrwyd
Y termau a awgrymaf a gynhwysir yn y Geiriadur oni'm darbwyllir yn wahanol.
Gobeithio bod hyn yn gymorth.
Bruce Griffiths
30.08.99
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|