Wrth bori trwy nifer o bapurau arholiad mathemateg yn ddiweddar sylwais ar rai enghreifftiau
o'r defnydd o'r lluosog yn hytrach na'r unigol fel a ganlyn:
a) Darganfyddwch werthoedd y cysonion p a q
b) Mae taldrau dynion wedi'u dosrannu'n normal
Cyfieithiad yw'r cyntaf o 'Find the values of the constants p and q' a chyfieithiad yw'r ail o
'Men's heights are normally distributed'.
A oes angen y ffurfiau lluosog 'gwerthoedd' yn hytrach na 'gwerth' a 'taldrau' yn hytrach na
'taldra' (nid yw ffurf lluosog taldra yn y Termiadur o gwbl)?
Beth yw'r egwyddorion sy'n sylfaen i'r dewis?
Croesewir pob sylw!
Gareth
Dr H Gareth Ff Roberts
Ysgol Addysg - School of Education
Safle'r Normal, Prifysgol Cymru, Bangor
Normal Site, University of Wales, Bangor
01248 383000 [log in to unmask]
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|