Mae gan Carl Morris sylwadau ar y cwestiwn yma yn fan hyn:
https://morris.cymru/2019/09/termau-ethnigrwydd-hil/
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwenlli Haf
Sent: 02 October 2019 16:03
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: people of colour
Tybed oes'na oleuni pellach ar ddefnydd y term hwn yn Gymraeg?
Fy nheimlad i yw mai 'croendywyll' sy'n ateb y diben yn Gymraeg. Mae'r drafodaeth yn y negeseuon isod wedi crisialu hynny i ryw raddau.
Mae rhywun wedi fy holi heddiw, a da fyddai gallu rhoi'r ateb: "mae {fel a'r fel} wedi ennill ei blwyf ymysg cyfieithwyr" (onid dyna'r freuddwyd fawr?!)
Rwyf hyd yma wedi llwyddo i osgoi gorfod setlo ar unrhyw ddewis penodol ar gyfer 'people of colour' wrth gyfieithu. Diog braidd, efallai, ac arwydd o statws breintiedig person gwyn yng Nghymru sy'n gallu byw'n ddigon bodlon heb orfod setlo ar derm!
O ran barn y Cymry Cymraeg sy'n perthyn i'r grwp 'people of colour'... mis Hydref yw Mis Hanes Pobl Dduon, cyfle da i ofyn barn a sbarduno trafodaeth. Af ati i holi ambell gyfaill a bosib iawn y byddaf yn mentro'r cwestiwn ar Facebook.
Diolch,
Gwenlli
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
---
This email has been checked for viruses by AVG.
https://www.avg.com
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|