Wrthi'n golygu gwaith sy'n sillafu "Llydawr" gyda'r didolnod ar yr 'w'
yn hytrach na'r 'a'. Mae hynny i fi yn llawer mwy synhwyrol gan mai 2
'w' sydd wedi'u cywasgu 'Llydaw-wr'. Mae 'Llydäwr' wastad yn rhoi'r
argraff mai dwy 'a' sydd wedi'u cywasgu ac mai 'Llyda-wr' ydi'r
ynganiad. Felly dwi am ddechrau ymgyrch i newid y sillafiad i 'Llydawr'
efo'r didolnod ar yr 'w'. Pwy sy'n gêm?
geraint
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|