Dyma pam na wna’i byth gyfieithu papurau arholiad.
Geraint.
Anfonwyd o'm ffôn-i.
> On 6 Jul 2019, at 1:50 am, Máire Nig Ualghairg <[log in to unmask]> wrote:
>
> Gareth,
>
> Rwy'n dod i'r casgliad nad oes gennych lawer o brofiad o waith plant,
> yn enwedig gwaith plant ysgolion Cymraeg ac yn benodol plant ail iaith
> yn yr ysgolion hynny - bues i'n dysgu am flynyddoedd, mewn ysgol
> Saesneg lle roedd cyfran helaeth o'r blant yn ail iaith Saesneg ac
> wedyn mewn ysgol Gymraeg lle mae'r rhan fwyaf o'r plant yn ail iaith
> Gymraeg - ac rwy'n cymryd hefyd nad oes gennych fawr o brofiad o
> farcio sgriptiau arholiadau yn y naill iaith na'r llall - petai
> gennych y profiad hwnnw (yn Saesneg neu yn Gymraeg) byddech yn dysgu'n
> weddol gyflym faddau i blant TGAU a Lefel A am lithriadau fel hyn ac
> edrych y tu hwnt i fynegiant drwsgl (ac weithiau yn anghywir ond yn
> agos ati) ac i edrych ar yr hyn y mae'n amlwg y mae'r plantyn yn
> ceisio ei ddweud. NID DISGYBLION PRIFYSGOL MO'R PLANT HYN ac ni ddylid
> disgwyl iaith raenus ganddynt erbyn hyn ac mae'n rhaid defnyddio
> crebwyll wrth farcio'r papurau ac wrth eu cyfieithu - rwy'n ofni eich
> bod yn chwilio am gwallau (a bydd hen ddigon ohonynt mewn testunau
> Cymraeg cyfoes - hyd yn oed yng ngwaith cyfieithwyr).
>
> Dros y blynyddoedd rwyf wedi gweld pobl heb gymwysterau yn cyfieithu
> sgriptiau (myfyrwyr gradd - oedd, yn fy marn i, yn warthus o beth) ac
> rwyf wedi cyfieithu sgriptiau fy hunan a phan oeddwn i'n eu cyfieithu
> roeddwn i'n dibynnu'n helaeth ar fy mhrofiad o ddysgu mewn ysgol
> Gymraeg a'm dealltwriaeth o'r sefyllfa ieithyddol i'r plant hyn. Nawr,
> rwy'n mynd i siarad yn onest â chi - fy mab i yw un o'r siaradwyr
> Cymraeg gorau yn ei ysgol - yn ôl pennaeth adran Gymraeg yr ysgol
> mae'n ymhell o flaen plant eraill o ran ei ddealltwriaeth o'r iath
> (nad yw'n syndod gan fy mod innau'n ei gywiro drwy'r amser ac yn dysgu
> geiriau newydd iddo bob dydd ac mae ei ddau riant yn gyfieithwyr - yn
> ôl mam ffrind iddo ym Mlaenau Ffestiniog mae'n siarad Mega Cymraeg) a
> soniad amdanom ni ar grwp Facebook iaith fel rhieni oedd wedi magu ein
> plentyn i siarad Cymraeg caboledig - ni hoffwn i'm mab wneud arholiad
> yn y Gymraeg os mai chi fydd yn cyfieithu'r sgript - a dweud y gwir,
> ni hoffwn innau wneud arholiad yn y Gymraeg os mai chi fyddai'n
> cyfieithu'r sgript. Rydych yn gwneud môr a mynydd o bethau bach (y
> dwli yma am 'arwyddion ymatal' pan oedd yn amlwg i bawb beth oedd yr
> ystyr a'r hurtni am 'siaced uchel-weledigaeth'). Fel y dydweodd Ann
> Corkett
>
> "Pan oeddwn i'n cyfieithu papurau arholiad Prifysgol Aberystwyth ar
> gyfer arholwr allanol, byddai'r diweddar Wil Petherbridge, a roddai'r
> gwaith imi, yn dweud wrthyf i roi mantais yr amheuaeth i'r myfyriwr"
>
> Ac rwy'n cytuno gyda hi
>
> O ddifrif, Gareth, rydych yn deall beth mae'r plentyn yn ei olygu,
> mae'n agos iawn at y peth cywir ac mae'r plentyn (sydd siwr o fod yn
> ail iaith) wedi dewis y gair anghywir oherwydd diffyg yn ei
> ddealltwriaeth o'r iaith ac am hynny rydych yn mynd i ddechrau rhoi
> nodiadau i mewn ac yn mynd i ddechrau bwrw amheuaeth ar wybodaeth y
> plentyn? Calliwch, a chofich fod marciau pwysig plentyn y fantol yma,
> os ydych am i blentyn golli marciau am fethu oherwydd ddiffygion yn ei
> iaith - wel, rhwydd hynt i chi, cewch wneud hynny, ond gallaf ddweud
> nawr y byddaf yn mynnu bod fy mab yn gwneud ei brofion yn Saesneg er
> mwyn osgoi'r broblem hon ac er mwyn osgoi cyfieithwyr fel chi.
>
> Gaf i hefyd awgrymu eich bod yn darllen yr erthygl hwn am 'erydu
> ieithyddol' fydd yn rhoi syniad i chi am y problemau y mae plant
> Cymraeg yn eu hwynebu ac effaith byw mewn byd Saesneg ar allu
> ieithyddol pobl a fagwyd (yn uniaith) mewn gwlad arall (yn yr achos
> hwn, mae'n Almaenes a fagwyd yn yr Almaen ond a gafodd ei synnu wrth
> sywleddol cymaint roedd ei Halmaeneg wedi dirywio a chymaint roedd
> Saesneg wedi cael effaith ar ei Halmaeneg - mae'r effaith yn gryfach o
> lawer ar iaith plant yng Nghymru ac yn waeth byth ar blant ail iaith.
> Ymddengys imi nad oes gennych lawer o ddealltwriaeth am y pethau hyn
> ac felly yn barod i gosbi plant drwy gyfieithu'n haearnaeth yn hytrach
> na chyfieithu'r ystyr amlwg.
>
> https://www.independent.co.uk/environment/language-erosion-you-dont-hear-that-often-2134915.html
>
> M
>
>> On Fri, 5 Jul 2019 at 23:41, Gareth Jones <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> Enghraifft arall ydy ‘tanau electronig’. Dwi’n gwybod mai electrical fires sydd dan sylw wrth gwrs, ond dydy electrical ddim yn gyfieithiad o electronig. Pe bai’r ymgeisydd yn gwneud y gwaith yn Saesneg ac yn defnyddio ‘electronic fires’, mi fyddai hynny’n cael ei ystyried yn derm anghywir. Byddai defnyddio ‘electrical fires’ yn y cyfieithiad yn creu camargraff efallai.
>>
>>
>>
>> Sent from Mail for Windows 10
>>
>>
>>
>> From: Máire Nig Ualghairg
>> Sent: 05 July 2019 16:43
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Cyfieithu gwaith cwrs
>>
>>
>>
>> Bues i'n dysgu mewn ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd - mae'r rhan fwyaf
>>
>> o'r plant ynddynt yn ail iaith, mae hynny'n fater o ffaith ac, fe y
>>
>> nodais, petai pob cyfieithydd i fabwysiadu'ch egwyddor ni fyddai plant
>>
>> ail iaith yn ennill marciau da, nid oherwydd diffyg yn eu gwybodaeth
>>
>> am y pwnc, ond diffyg yn eu geirfa er bod yr hyn y maent yn ceisio ei
>>
>> ddweud yn glir. Mae fy mab yn iaith gyntaf ac yn un o'r plant gorau o
>>
>> ran y Gymraeg yn ei flwyddyn (yn ôl y sôn) ac er bod ganddo ddau
>>
>> gyfieithydd yn rhieni iddo ac er ein bod wedi sicrhau bod ei eirfa'n
>>
>> eang a'i iaith yn gywir, mae'n dal i anghofio geiriau y byddwn i'n
>>
>> disgwyl iddo eu gwybod (mater o 'language erosion' yw hynny gan ei fod
>>
>> yn byw mewn cymdeithas Saesneg) mae'n bosibl iawn y byddai'n sôn am
>>
>> 'Arwyddion Ymatal' gan gofio bod ymatal yn meddwl 'peidio â gwneud
>>
>> rhywbeth', a ddylid ei gosbi am hynny? Os felly, man a man rhoi'r
>>
>> ffidil yn y to a rhoi marciau is i blant ail iaith a phlant nad oes
>>
>> ganddynt ddigon o gysylltiad â'r Gymraeg i gael yr union derm yn gywir
>>
>> bob tro - fel rwyf wedi nodi, mae GPC yn defnyddio'r gair 'Ymatal' yn
>>
>> y diffiniad o wahardd, felly gellir dadlau bod cynsail yno am
>>
>> ddefnyddio'r term, mae'n amlwg beth yw'r ystyr!
>>
>>
>>
>>> On Fri, 5 Jul 2019 at 16:28, Gareth Jones <[log in to unmask]> wrote:
>>>
>>>
>>
>>> Ysgol Gymraeg sydd dan sylw.
>>
>>>
>>
>>> On Fri, 5 Jul 2019, 15:51 Máire Nig Ualghairg, <[log in to unmask]> wrote:
>>
>>>>
>>
>>>> Ond Pam? Mae'n glir beth yw ystyr 'Arwyddion ymatal' a phan oeddwn I'n dysgu byddwn i wedi derbyn term felly, mae dyfodol plentyn yn y fantol yma ac rwy'n meddwl bod cyfiawnhâd dros ymatal beth bynnag (gweler fy ebost cynharach yn dangos diffiniad Gwahardd yn ôl GPC). Rôl cyfieithydd ye cyfieithu'r ystyr ac mae'r ystyr yn glir. Petai pob cyfieithydd yn dilyn yr egwyddor â chi byddai bron pin plentyn ail iaith yn methu a llawer o rai iaith gyntaf!
>>
>>>>
>>
>>>> On Fri, 5 Jul 2019, 15:08 Gareth Jones, <[log in to unmask]> wrote:
>>
>>>>>
>>
>>>>> Mae cyfarwyddiadau’r athro yn nodi ‘Disgrifiwch arwyddion sydd ar safle adeiladu – arwyddion diogelwch, arwyddion gwahardd, arwyddion rhybuddio....
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>> Felly mae’r myfyriwr wedi cael y term cywir yn y cyfarwyddiadau ond wedi defnyddio rhywbeth gwallus.
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>> Dwi’n meddwl felly bod cyfiawnhad i mi gyfieithu’r term gwallus yn hytrach na defnyddio’r term cywir yn y cyfieithiad, i gynnig darlun teg o waith y myfyriwr.
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>> Sent from Mail for Windows 10
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>> From: Siân Roberts
>>
>>>>> Sent: 05 July 2019 11:40
>>
>>>>> To: [log in to unmask]
>>
>>>>> Subject: Re: Cyfieithu gwaith cwrs
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>> Mae hyn yn fater eithriadol o anodd.
>>
>>>>>
>>
>>>>> Dwi wedi cyfieithu sgriptiau arholiadau i'r Saesneg yn y gorffennol ond wna i ddim eto.
>>
>>>>>
>>
>>>>> Mae'n anodd iawn pitsho lefel yr iaith. Ydych chi'n sgrifennu yn eich Saesneg gorau 'ta'n ceisio adlewyrchu'r math o Saesneg rydych chi'n meddwl y byddai'r myfyriwr yn ei sgrifennu?
>>
>>>>>
>>
>>>>> Os yw'r Gymraeg yn wallus/ansafonol, mae'n eitha posib y byddai'r myfyriwr wedi sgrifennu Saesneg gwell ac felly byddech yn gwneud cam ag ef/hi trwy dynnu sylw at wallau.
>>
>>>>>
>>
>>>>> Os yw'n amlwg beth mae'r myfyriwr yn ei olygu, fel gyda'r siaced, fyddwn i ddim yn tynnu sylw at wallau yn y termau.
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>> Siân
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>> ########################################################################
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
>>
>>>>>
>>
>>>>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>>
>>
>>>>> ________________________________
>>
>>>>>
>>
>>>>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
>>
>>>>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>>
>>>>
>>
>>>>
>>
>>>> ________________________________
>>
>>>>
>>
>>>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
>>
>>>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>>
>>>
>>
>>>
>>
>>> ________________________________
>>
>>>
>>
>>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
>>
>>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>>
>>
>>
>> ########################################################################
>>
>>
>>
>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
>>
>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>>
>>
>>
>>
>> ________________________________
>>
>> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
>> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>
> ########################################################################
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|