Tybed a fyddai 'siacedi llachar-liw' yn ormod o lond ceg?
Eurwyn?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Jones, Llifon
Sent: 04 July 2019 09:08
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cyfieithu gwaith cwrs
O ran 'high visibility jackets', beth am siacedi llachar?
Diolch,
Llifon
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Máire Nig Ualghairg
Sent: 04 July 2019 00:44
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cyfieithu gwaith cwrs
Os edrychir yn GPC beth yw ystyr 'Gwahardd' ceir 'Gorchymyn i YMATAL'
fel diffiniad o'r ystyr, rwy'n credu bod y diffiniad hwnnw'n ddigon o
gynsail i fod yn garedig wrth y myfyriwr hwn a derbyn bod 'Arwyddion
ymatal' yn golygu 'Prohibition signs'.
M
On Thu, 4 Jul 2019 at 00:30, Máire Nig Ualghairg
<[log in to unmask]> wrote:
>
> Ystyr safoni mewnol yw bod yr athrawon i gyd wedi cytuno ar y
> marciau'n fewnol - sy'n golygu wedyn bob pob athro neu athrawes yn
> gweithio i'r un marciau, ac felly, os bydd y bwrdd arholi'n penderfynu
> bod y marciau'n rhy galed neu'n rhy gryf, mae'n gallu codi (neu
> ostwng) yr holl farciau - nid yw'n golygu bod yr athrawon wedi newid
> dim byd yn y gwaith.
>
> O ran y term ei hun, gweler fy ebost ychydig o funudau'n ôl lle rwy'n
> dadlau y gellir derbyn 'arwyddion ymatal' fel cyfieithiad digon cywir
> (er rhyfedd i'n clustiau ni).
>
> M
>
> On Thu, 4 Jul 2019 at 00:21, Gareth Jones <[log in to unmask]> wrote:
> >
> > Falle bod hynny'n syniad.
> >
> > On Thu, 4 Jul 2019, 00:09 Sian Jones, <[log in to unmask]> wrote:
> >>
> >> Oes modd cyfieithu yr hyn a fwriadwyd gan y myfyriwr gyda nodyn mewn cromfachau gan y cyfieithydd yn nodi'r hyn a roddwyd mewn gwirionedd?
> >> Er enghraifft: 'Prohibition Signs’ [Translators Note: Student used the term 'Abstention signs' in error].
> >>
> >> Ydy hynny'n dderbyniol?
> >> Sian
> >> ________________________________
> >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> on behalf of Gareth Jones <[log in to unmask]>
> >> Sent: 03 July 2019 22:47
> >> To: [log in to unmask]
> >> Subject: Cyfieithu gwaith cwrs
> >>
> >>
> >> Dwi wrthi’n cyfieithu samplau o waith cwrs yn ymwneud ag iechyd a diogelwch o’r Gymraeg i’r Saesneg i’w safoni gan gorff dyfarnu cymwysterau yn Lloegr, ac mae safon y gwaith ysgrifenedig braidd yn simsan mewn mannau.
> >>
> >>
> >>
> >> Mewn cyflwyniad PPT, mae un myfyriwr yn disgrifio arwyddion gwahardd, e.e. dim ysmygu, ond teitl y sleid ydy ‘Arwyddion Ymatal’. Dwi’n gwybod mai ‘Prohibition Signs’ ydy’r ystyr mae’r myfyriwr yn ceisio’i gyfleu, ond dydy ‘ymatal’ ddim yn golygu ‘prohibition’, nac ydy? Mi allai ‘arwyddion ymatal’ olygu ‘continence signs’, ‘moderation signs’, ‘abstention signs’ neu ‘self-restraint signs’.
> >>
> >>
> >>
> >> Pe bawn i’n defnyddio ‘prohibition signs’ yn y cyfieithiad, byddai safon y gwaith yn y cyfieithiad yn well na safon y gwreiddiol. Beth fyddech chi’n ei ddefnyddio wrth gyfieithu i’r Saesneg i gyfleu darlun teg o waith y myfyriwr yn yr achos hwn?
> >>
> >>
> >>
> >> Enghraifft arall ydy ‘siacedi uchel-weledigaeth’ – eto, dwi’n gwybod mai ‘high-visibility jackets’ sydd dan sylw, ond nid ‘visibility’ ydy ‘gweledigaeth’, naci? Beth fyddech chi’n ei ddefnyddio yn Saesneg i gyfleu’r union eiriau mae’r myfyriwr wedi’u defnyddio?
> >>
> >>
> >>
> >> Yr unig gyfarwyddiadau ydw i wedi’i gael ydy peidio mynd ati i adlewyrchu gwallau gramadegol a sillafu yn y cyfieithiad, ond dydy hynny ddim yn golygu cywiro termau gwallus wrth gyfieithu.
> >>
> >>
> >>
> >>
> >>
> >>
> >>
> >>
> >>
> >> Sent from Mail for Windows 10
> >>
> >>
> >>
> >>
> >> ________________________________
> >>
> >> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> >> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
> >>
> >>
> >> ________________________________
> >>
> >> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> >> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
> >
> >
> > ________________________________
> >
> > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
> > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
______________________________________________________________________
This email has been scanned by the Symantec Email Security.cloud service.
For more information please visit http://www.symanteccloud.com
______________________________________________________________________
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg - byddwn yn ymateb yn gyfartal i’r ddwy ac yn ateb yn eich dewis iaith heb oedi.
We welcome correspondence in Welsh and English - we will respond equally to both and will reply in your language of choice without delay.
Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich cydweithrediad.
Heddlu Gogledd Cymru
Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication. North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy. Thank you for your co-operation.
North Wales Police
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|