Dw i'n gwybod bod trafodaeth am y term hwn wedi bod ar y fforwm flynyddoedd yn ôl, ond cyd-destun ac ystyr gwahanol sydd gen i. Mi oedd Ann Corkett wedi holi am yr ystyr hwn ond heb gael (na chynnig) ateb hyd y gwela i.
Beth sydd gen i ydy "requisition a water main" (neu gall fod yn garthffos hefyd).
Mae'n golygu gwneud cais i'r cwmni dŵr am gysylltiad â'r cyflenwad/carthffos, ond pan fydd datblygwr yn cyflwyno "requisition notice", mae rhaid i'r cwmni dŵr ddarparu yn ôl y gyfraith (cyn belled a bod y datblygiad yn un cyfreithlon). Mae gan Dŵr Cymru ddogfen ar-lein sy'n defnyddio "meddiannu", sy'n amlwg yn hollol rong. Dw i wedi ffeindio rhywbeth mewn dogfen gynllunio gan gynghorau Môn a Gwynedd sy'n defnyddio "caffael" -
"..bydd yn ofynnol i brif bibellau dŵr oddi ar y safle gael eu darparu at ffin ac o fewn y safle datblygu. Gellir caffael y gwasanaeth hwn trwy ddarpariaethau cais o dan adrannau 40-41 Deddf Diwydiant Dŵr 1991 (fel y'i diwygiwyd)."
"..there may be a requirement for off-site water mains to be provided to the boundary of and within the development site. This service can be
acquired through requisition provisions under sections 40-41 Water Industry Act 1991 (as amended)."
Dw i'n rhyw feddwl fallai mai dyna'r cynnig gorau, os nad oes gan rywun awgrym gwell. Ar gyfer"Requisitioner" wedyn, "Gofynnydd" sydd gen i.
Diolch
Aled
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|