Ann Corkett:
> Geiriadur yr Academi: think-tank: seiat (f) ddoethion (seiadau doethion)?
> Fel dywedais ychydig ddyddiau'n ol, 'does neb yn meddwl am edrych yn
> Geiriadur yr Academi mwyach.
Ga i gynnig bod GyA wedi'n methu ni yma: mae sawl ystyr i "think-tank",
ac nid yw seiat ddoethion na melin drafod yn cyfleu'r un sydd erbyn
hyn yn gyffredin.
Cyfeiriad at yr ymennydd oedd y term yn wreiddiol, yn yr Unol
Daleithiau a cyn y Rhyfel Mawr. Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif
mae'r ystyr o seiat doethion wedi dod i fod. (Mae "Tortoise" yn
defnyddio'r term "think-in" sydd ag arlliw o Haight Ashbury y
chwedegau iddo, ond sydd hyd y gwn i yn enw cymharol newydd.)
Ond os yw'r "think-tank" yn cyflogi rhywun, mi hoffwn i gynnig
mai'r trydydd ystyr, un ddaeth i fod ar ôl yr Ail Ryfel Byd sydd
yma. Yn aml iawn mi fydd rhein yn ôl y cliché yn "right-wing
think-tanks". Mae nhw'n cyhoeddi barn a cynnig cyngor ar sail
ymchil (beth bynnag mae rhywun yn ei feddwl o safon a rhagfarn
yr ymchwil). Nid seiat na melin mo'r Adam Smith Institute neu
Legarum neu'r Bow Group neu Chatham House. Sefydliadau ymchwil
ydyn nhw, ac mi gynigiwn i mai rhywbeth felly ddylai'r enw fod.
Yn yr ystyr hwn, mae arlliw o (rag)farn i'r enw think-tank sydd
ddim yn "sefydliad ymchwil", ond wela i ddim ffordd amlwg o gyfleu
hynny heb draethu'n helaeth.
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|