Ryw ddeunaw mis yn ol, cefais anhap ar y cyfrifiadur a cholli rhai o'r
ffolderi negeseuon 'roeddwn wedi'u creu. Un o'r ffolderi hyn oedd yr un
lle cedwais gywiriadau yr oedd pobl wedi'u hanfon o dro i dro i Eiriadur
yr Academi. Os ydych chi erioed wedi anfon cywiriad ataf, a fyddwch chi
gystal a'i anfon eto, rhag ofn na chafodd ei nodi cyn i'r ffolder fynd
ar goll?
Byddai'n dda rhoi pennawd "Cywiriad - Geiriadur yr Academi" i'm helpu
i'w ddidoli.
Addawaf nodi'ch cywiriad yn fuan, yn lle dim ond creu ffolder newydd!
Diolch yn fawr iawn.
Ann
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|