Helo Ann
Drwy chwilio am 'cywiriad posib' yn negeseuon y Cylch dw i'n gweld mod i wedi tynnu sylw at un neu ddau o gamgymeriadau teipio yng Ngeiriadur yr Academi e.e. 'squelchy' - 'corlsyd' ('corslyd'?). Dw wedi anfon un neu ddau at [log in to unmask] yn ddiweddar hefyd.
Hwyl
Rhian
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 4 Mehefin 2019 12:34
At: [log in to unmask]
Pwnc: APEL - Cywiriadau i Eiriadur yr Academi
Ryw ddeunaw mis yn ol, cefais anhap ar y cyfrifiadur a cholli rhai o'r ffolderi negeseuon 'roeddwn wedi'u creu. Un o'r ffolderi hyn oedd yr un lle cedwais gywiriadau yr oedd pobl wedi'u hanfon o dro i dro i Eiriadur yr Academi. Os ydych chi erioed wedi anfon cywiriad ataf, a fyddwch chi gystal a'i anfon eto, rhag ofn na chafodd ei nodi cyn i'r ffolder fynd ar goll?
Byddai'n dda rhoi pennawd "Cywiriad - Geiriadur yr Academi" i'm helpu i'w ddidoli.
Addawaf nodi'ch cywiriad yn fuan, yn lle dim ond creu ffolder newydd!
Diolch yn fawr iawn.
Ann
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|