Gwylio’r cwcwod, neu wylio’r cogwyr, yn swnio’n iawn i fi.
Anfonwyd o'm ffôn-i.
> On 5 Apr 2019, at 6:13 pm, Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]> wrote:
>
> Yr hyn y mae'r iâr (y gog fenywaidd) yn ei wneud yw 'trawsfeddiannu' nyth aderyn arall - er mwyn dodwy ei ŵy hi ei hun ynddo, ac i'r perwyl o orfodi'r aderyn gwesteiol druan i fwydo, meithrin, magu a gofalu am gyw aderyn sy'n gwbl ddieithr iddo - a hwnnwn'n gyw aderyn sydd o dylwyth twyllodrus a gelyniaethus ei natur, ac sy'n meddu ar fwriadau creulon a didostur tuag at yr aderyn gwesteiol. Pobl dideimlad felly sydd y tu ôl i'r anfadwaith y cyfeirir ato yma.
>
> Pam felly ddim ystyried rhywbeth fel 'trawsfeddianu eiddo' / 'trawsfeddiannu preswylfan(nau)'?
>
> Rhaid deall mai enw cywasgedig mewn côd ydyw 'Cuckoo Watch' - enw ar ymgyrch a weithredir gan yr heddlu; ac mai anodd (os nad amhosib, hwyrach) fydd ei baru gyda'r un math o gywasgiad byr a bachog yn y Gymraeg; ond beth am rywbeth tebyg i:
>
> 'Gwylio'r cwcwod'
>
> h.y., yn golygu: (i) cadw golwg ar y 'cwcwod' annhrugarog hyn sy'n trawsfeddiannu ein preswylfannau yn ein cymunedau ni ein hunain,
> yn ogystal â (ii) gwarchod y tai annedd sydd wedi eu trawsfeddiannu gan y troseddwyr diegwyddor a didostur hyn (= y 'cwcwod').
>
>
> Eurwyn.
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas
> Sent: 05 April 2019 16:55
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Cuckoo Watch
>
> Helo Bethan,
>
> Diolch am y cynnig, ond byddai'r bobl hyn yn medru bod yn fechgyn neu'n ferched. Rwy'n cael fy nhemtio i roi rhywbeth fel 'Gwarchod Unigolion Bregus' gan mai dyna yw'r nod mewn gwirionedd. Neu rhywbeth sy'n dechrau
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|