Celc??
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> On Behalf Of Aled Powell
Sent: 06 February 2019 10:57
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cache
Mae'n ymddangos na chafwyd lawer o drafodaeth na phenderfyniad ar hyn a dw i angen defnyddio'r term wrth leoleiddio Android i'r Gymraeg.
Cof neu fan storio yw'r cache. Mae'r gair yn dod o'r Ffrangeg cacher (i guddio).
Defnyddir y cache i gadw gwybodaeth mewn man ble mae'n bosib cael ato eto yn hawdd a chyflym yn y dyfodol. Nid yw cynnwys y cache fel arfer i'w weld wrth bori trwy gynnwys storfa neu gof cyffredin dyfais.
Tra bod nifer o ieithoedd yn defnyddio ffurfiau o 'cache', mae rhai gyda thermau sy'n cyfleu gwahanol elfennau o guddio / dros dro / wrth law:
Κρυφή μνήμη - cof cyfrinachol
זיכרון מטמון - cof trysor
حافظه نهان - cof cudd
Мәліметтер бүркемесі - cof manylion
tijdelijk geheugen - cof dros dro
Mae hefyd nifer o ieithoedd yn cadw ac yn ychwanegu at y gair 'cache' i gael 'cof cache'.
Am fod defnydd Firefox o 'storfa' wedi'i grybwyll yma eisoes, dw i wedi trafod gyda phrif leoleiddiwr Mozilla i'r Gymraeg. Mae tair ffurf wedi codi:
* Storfa - Gair cyfarwydd. Mae dadl bod defnyddio'r gair hwn yn osgoi drysu pobol. Mae hefyd dadl bod defnyddio'r gair hwn *yn* drysu pobol. Defnyddir 'storfa' ar gyfer 'storage', sy'n wahanol i 'cache'. Wrth ystyried bod defnyddwyr weithiau yn mynd i weld cynigion megis 'Clirio'r storfa' neu 'Dileu cynnwys y storfa', a ddylid cael termau gwahanol fel ei bod yn glir os ydynt ar fin clirio'r cache neu golli popeth yn storfa'r ddyfais?
* Storfa dros dro
* Cuddstôr - Term archeolegol yn wreiddiol.
Wrth gwrs, gellir hefyd bathu term gyfan gwbl newydd, megis 'cudd gof'.
Mae angen ffurf berf hefyd!
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|