Annwyl Gyfeillion,
Ymddiheuriadau am e-bost nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â thermau!
Hoffwn eich atgoffa am fodolaeth y grŵp Gramadeg y Gymraeg / Welsh
Grammar ar Facebook. Pwrpas y grŵp yw trafod pwyntiau gramadegol a
chynnig help ymarferol gyda gramadeg. Mae gan y grŵp tua 900 o aelodau
erbyn hyn, rwyf yn un o weinyddwyr y grŵp ac rydym yn awyddus i helpu
siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn fodlon defnyddio’r Gymraeg yn y
gweithle oherwydd nad ydynt yn sicr a yw eu Cymraeg yn ddigon da,
gallant ddod at y grŵp i wirio rhyw bwynt gramadegol neu eirfaol.
Gaf i ofyn, felly, a fyddai modd ichi ddod yn aelod (os ydych yn
defnyddio Facebook) ac i ofyn i’r bobl hynny rydych chi’n eu nabod
fyddai â diddordeb i ddod yn aelod hefyd, ac i chi roi gwybod i unrhyw
swyddogion iaith neu ddeiliaid swyddi tebyg rydych yn eu nabod a gofyn
iddynt roi gwybod am y grŵp i’w gweithlu.
Os yw’r Gymraeg i droi’n iaith naturiol yn y man gwaith, mae’n bwysig
iawn bod cymorth ar gael i bobl ar ddefnyddio’r Gymraeg yn gywir a
dyna beth rydym yn ceisio ei roi yn y grŵp hwn.
Diolch
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|