Ers dipyn rwan 'rwyf wedi bod wrthi'n cyfieithu i'r Saesneg adroddiadau
papur newydd o gyfnod Diwygiad 1904-5. Mae gen i i'm "cynorthwyo" gan y
cwsmer gyfieithiad a wnaed yn gynharach yn rhannol trwy beiriant ac yn
rhannol trwy ymdrechion dau weinidog a roddodd y gorau iddi! Dyma bar o
frawddegau sydd wedi codi:
Tua hanner awr wedi naw galwyd y seiat yn ol, ac arosodd pump
At about half past nine the meeting was tested and 5 remained behind.
A yw'r cyfieithiad yn ddilys? Beth yw ystyr "galwyd y seiat yn ol"? Beth
yw ystyr "the meeting was tested"? Byddwn i wedi meddwl bod y Saesneg yn
golygu, fel arfer, rhywbeth fel "the matter was put to the vote", ond
mae awgrym yma, efallai, bod pawb i adael ond y rhai oedd wedi'u hachub.
Llawer o ddiolch,
Ann
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|