Wel gyfeillion, cefais brofiad annymunol heddiw.
Es i am gyfweliad swydd cyfieithydd a rhoddwyd dau ddarn i mi eu
cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg. (Copïau papur yn unig a heb Cysgliad
na hyd yn oed bysellfwrdd estynedig i fedru teipio acennau ar beiriant
gyda Windows ac Office yn Saesneg.)
Nes i nabod yr ail ddarn fel rhan o swydd ddisgrifiad y swydd roeddwn yn
cael fy mhrofi ar ei chyfer ac yn naturiol roedd gennyf felly gopi papur
Cymraeg a Saesneg o'r union ddogfen yn fy meddiant. Wrth gwrs, roeddwn
hefyd yn gwybod ym mhle i gael copi ffurf ddigidol. Es at wefan y
cyflogwr a'i lawrlwytho cyn copïo a phastio'r rhan berthnasol a chadw'r
ddogfen gorffenedig.
Wedi i'r amser ar gyfer y tasgau dod i ben, symudais ymlaen i'r
cyfweliad ei hun tra roedd fy narnau cyfieithu yn mynd i gael eu hasesu
gan y cyfieithydd a oedd yn gadael ei swydd. Gan mai di-gymraeg oedd dau
o'r tri phanelwyr, cynhaliwyd y cyfweliad yn Saesneg.
Manteisiais ar y cyfle cyntaf i esbonio fy mod wedi adnabod un o'r
darnau cyfieithu ac, fel y buaswn yn fy ngwaith fel cyfieithydd, wedi
dod o hyd i fersiwn Cymraeg a oedd yn union gyfieithiad ac wedi
defnyddio hwnnw yn hytrach nag ailadrodd gwaith yn ddiangen.
Ni chefais y swydd a chefais wybod bod y penderfyniad yn rhannol am fod
rhai ar y panel yn anfodlon nad oeddwn wedi mynd ati i gyfieithu'r ail
ddarn fy hun.
Ai fi sydd wir ar fai?
Mae'n rhaid bod pob ymgeisydd arall hefyd wedi adnabod y swydd
ddisgrifiad ac mae'n rhesymol tybio eu bod nhw, fel fi, gyda chopi o'r
ddogfen ar eu meddiant yn y ddwy iaith. Anodd credu nad ydyn nhw hefyd
wedi manteisio ar hynny i ryw raddau o leiaf wrth gwblhau'r dasg. Ond eu
bod nhw wedi cadw'n dawel am y peth?!
Aled
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|