> Cytuno'n llwyr. Mae 'na lawer o bobl yn cael trafferth wrth ddefnyddio'r
> patrwm genidol erbyn hyn - enghreifftiau ar y radio bob bore o ddilyn
> patrwm y Saesneg a rhoi'r fannod yn y lle anghywir yn fy marn i - byddwn
> i am ddweud 'rhagolygon y tywydd' yn hytrach na 'y rhagolygon tywydd' ac
> ati.
Tybed nad y genidol sydd yma, ond bod ni wedi cychwyn mabwysiadu
defnydd ansoddeiriol o enw Cymru, ac mai'r "casgliad" sydd yn cael
ei ddisgrifio.
Rydw i'n ddigon hen i gofio pan oedd Welsh yn ansoddair yn disgrifio
pethau a berthyn i Wales, a phan oedd yna gynadleddau o'r Welsh TUC.
Roedd y defnydd o "Wales TUC" braidd yn od ar y cychwyn, yn union
fel "Canada Post" a "Post Australia" (neu fel arall mae rheini,
d'wch?). Erbyn hyn mae Welsh yn ansoddair sy'n cyfateb i'r iaith yn
unig a Wales yw'r ansoddair sy'n cyfateb i'r, ac felly hefyd English
ac England. Amwys bellach yw "Wales Tourist in Headline News".
########################################################################
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
|