Oni bai ei fod yn saig wedi'i greu gan gogydd o'r enw Taverner, dwi ddim yn gwybod y byddai hynny'n tycio.
Felly dywedais i, mae'n ymddangos bod rhywun wedi bathu enw ar batrwm 'Hunter's Chicken'. 'Pub grub' yw e - ar fwydlenni tafarnau mae i'w weld yn hytrach na rhai bwytai a dwi wedi'i weld yn cael ei grybwyll ar restr o "real pub classics". Mae'n siŵr mai dyna pam y dewiswyd y gair 'taverner'.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Bethan Mair
Sent: 26 April 2018 10:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: taverners chicken
Mae’n saig benodol, sy’n cynnwys cyw iâr, cig moch, caws a saws barbeciw. Dyw Cyw Iâr Tafarn ddim yn ddigon felly.
Y dewis diogel yw Cyw Iâr Taverner.
Bethan
Anfonwyd o fy iFfôn
Sent from my iPhone
> On 26 Apr 2018, at 10:16, Dafydd Timothy <[log in to unmask]> wrote:
>
> Bore da!
>
> ... a cyn ichi ofyn, ydw mi rydw i wedi edrych ar Google!
>
> Bwydlen sgen i, ac un eitem ydy:
>
> Taverners Chicken (dyna sut mae 'di sgwennu, felly dw'n i ddim ai camgym gramadegol ydy hynny ai peidio!)
>
> Be ydy Taverners/taverner's ?
>
> Fasech chi jest yn ei alw'n Gyw Iâr Tafarn?
>
> Diolch,
>
> Dafydd
>
>
> ---
> This email has been checked for viruses by Avast antivirus software.
> https://www.avast.com/antivirus
|