Mi wn i nad oes llawer ohonoch chi'n defnyddio cof cyfieithu Trados, ond
os ydych, gwelaf fod ganddynt arwerthiant o drwyddedau newydd a
diweddariadau gyda gostyngiadau mawrion tan ddiwedd y mis (yn achos yr
hyn yr wyf yn ei ffansio, o ryw £550 i £300).
Gan nad ydwyf yn gwneud cymaint o waith cyfieithu rwan, dyw hi ddim wedi
bod yn werth chweil imi ddiweddaru, ac 'rwyf wedi gorfod cadw Microsoft
XL ar un cyfrifiadur er mwyn defnyddio'r hen fersiwn o Trados. 'Rwy'n
cael fy nhemtio'n ofnadwy i fynd am y cynnig hwn. A oes gennych chi
unrhyw sylwadau cyn imi wario fy arian? A ydych chi'n gwybod am unrhyw
beth rhatach/gwell lle gallwn ddefnyddio fy hen gofau cyfieithu heb fod
y "learning curve" yn rhy enfawr?
Llawer o ddiolch,
Ann
--
5 Heol Belmont
BANGOR
Gwynedd
LL57 2HS
(01248) 371987
[log in to unmask]
|