Haha! Eich cynnig chi Siân wedi gwneud i mi chwerthin!
Diolch Hedd am dy gynigion hefyd. Ro'n i wedi ceisio mynd ar hyd y llwybr 'ding a ling a ling', ond heb gael fawr o lwc. Do'n i ddim hyd yn oed yn cofio beth oedd y fersiwn Gymraeg o Jingle Bells! Ma sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers i mi ganu'r gân yn yr ysgol - yr unig fersiwn wi'n cofio yw un Bart Simpson ar gefn fy nghalendr adfent un flwyddyn! Wrth lwc, roedd llwyth o blant aelodau staff yma ddoe ar gyfer parti Nadolig a phantomeim, felly nes i ofyn i un ohonyn nhw. Nid fy mod i wedi llwyddo i feddwl am rywbeth slic chwaith! Wedi mynd am gynnig Angharad - llawer gwell na'n ymdrechion i!
Meinir
|