Gyfeillion,
Ymddiheuriadau am anfon y neges hon eto, ond tybed a ga i'ch barn chi, rywbryd heddiw os yn bosib, am 'community centre' yn Gymraeg os gwelwch yn dda, oherwydd mae sawl fersiwn yn bodoli.
Dw i’n ffafrio'r ffurf ‘Canolfan Gymunedol…’(ac yna’r enw) am ‘… Community Centre’ a dweud y gwir ond dw i’n gweld fersiynau eraill hefyd (Canolfan Cymuned… / Canolfan Gymuned…/).
Dw i’n gallu deall bod Canolfan Cymuned Eglwyswrw, er enghraifft, yn hollol gywir h.y. mae hi’n ganolfan ar gyfer cymuned Eglwyswrw, sef y genidol, ond os nad yw’r enw ar y ganolfan yn gymuned gydnabyddedig, er enghraifft Canolfan Cymuned Hywel Dda, dyweder, (dyw hon ddim yn bodoli, wrth gwrs, - fi sy’n creu enghraifft) yna byddwn i’n meddwl mai ‘Gymunedol’ fyddai’n gywir.
Dw i’n gweld bod ‘Canolfan Gymuned Tywyn’ yn bodoli.
Mae G. yr Academi yn nodi bod canolfan yn gallu bod yn enw g. neu'n enw b. a bod "canolfan cymdeithasol/gymdeithasol (canolfannau cymdeithasol) mf, canolfan cymunedol/gymunedol (canolfannau cymunedol), canolfan cymuned/gymuned (canolfannau cymuned)" yn ffurfiau cywir.
Mae GPC yn nodi bod canolfan yn enw g.b.
Felly, a ydy 'canolfan' yn wrywaidd neu'n fenwyaidd yn benna ledled Cymru? Ai rhywbeth 'lleol' yw cenedl 'canolfan'? (fel 'dwy biano' ym Môn er enghraifft, os cofia i'n iawn)
A ydy 'cymunedol' / 'gymunedol' yn fwy cyffredin/safonol na 'cymuned' / 'cymuned' tybed? (Gyda llaw, mae enghreifftiau o 'canolfan gymunedol' yn llawer iawn mwy niferus ar y we na'r ffurfiau eraill.)
Tybed a ga i eich barn chi os gwelwch yn dda? A oes ymadrodd ‘safonol’ wedi cael ei sefydlu bellach?
Mae elfen o frys am hyn bellach, felly byddwn yn croesawu eich sylwadau rywbryd yn ystody dydd heddiw os oes modd os gwelwch yn dda. Llawer iawn o ddiolch ymlaen llaw am eich sylwadau.
Hedd
|