Annwyl gyfeillion,
Dyma ichi bos nos Lun!
Cyd-destun: gwastraff yn y sector cynnyrch llaeth. "Waste products including whey and desludge".
Caiff ei drin fel enw, yn ogystal รข berf:
"to desludge machinery" = glanhau'r tanciau.
Gellir diffinio defnydd y diwydiant ar y term fel hyn (yn fy ngeiriau i):
'desludge is the material that is cleared out by the desludging process'.
Gan ddechrau efo sludge = slwtsh (GyrA ac eraill)
Byddwn yn ddiolchgar iawn am eich awgrymiadau ar y canlynol, os gwelwch yn dda.
1. desludge (berf) = dad-slwtshio? di-slwtshio? glanhau?
2. desludge (y stwff) = sgil-gynnyrch? gwastraff llaeth? gwastraff? Rhywbeth hollol wahanol?
Mae fy meddwl yn methu, a'r amserlen yn dynn!
Diolch yn dalpiau,
Gwenlli
|