Roeddwn i'n mynd i ddweud yr un peth. Mae'r ymadrodd Saesneg yn ymwneud ag ymddygiad pobl, da yn ogystal â drwg. Gallai dyn wneud cymwynas â rhywun arall heb ddisgwyl tâl o unrhyw fath, yn y gobaith y bydd yntau'n cael cymwynas ryw ddiwrnod.
Oes modd gwneud rhywbeth gyda'r geiriau 'hen' a 'newydd', tybed?
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Melanie Davies
Sent: 15 September 2017 09:25
To: [log in to unmask]
Subject: Re: dihareb
Mae'r rhod yn troi?
Fel arfer, rwy'n ei glywed yn cael ei ddefnyddio pan fydd rhywbeth yn dod yn ôl i gnoi rhywun sydd wedi gwneud rhywbeth drwg.
Melanie
Anfonwyd o'm ffôn clyfar
Sent from my iPhone
> On 15 Sep 2017, at 09:02, Gwenfair Griffith <[log in to unmask]> wrote:
>
> Helo, oes gan unrhyw un awgrym am sut i gyfieithu "What goes around comes around?" os gwelwch yn dda? Pennawd yw e, ond mae'r ddogfen ynglŷn ag ailgylchu a beth sy'n cael ei greu drwy ailgylchu.
.
|